16.9 C
Llanelli
Wednesday, October 14, 2026
Home Newyddion Lle Codi cyfalaf i ariannu prosiectau datgarboneiddio – Plaid Cymru yn galw am...

Codi cyfalaf i ariannu prosiectau datgarboneiddio – Plaid Cymru yn galw am Fond Gwyrdd Cymreig

0
315
00 Llyr Gruffydd AC
00 Llyr Gruffydd AC

 Mae Plaid Cymru wedi galw am Fond Gwyrdd Cymreig i alluogi buddsoddiad cyfalaf yn economi Cymru.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, llefarydd Plaid Cymru ar gyllid y gallai bondiau gwyrdd gael eu cyhoeddi ar gyfer prosiectau newydd neu rai sy’n bodoli eisoes sy’n sicrhau manteision amgylcheddol.

Dywedodd Mr Gruffydd – sy’n mynychu cynhadledd hinsawdd COP26 yn Glasgow heddiw – y byddai Bond Gwyrdd Cymru yn caniatáu i lywodraeth Cymru ariannu ymdrechion datgarboneiddio, ac yn ei dro yn cadw cyfran uwch o arbedion yng Nghymru.

Ar 9 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynlluniau ar gyfer gilt gwyrdd yn y DU, a chyhoeddwyd y cyntaf ar  21 Medi  2021,  ac sydd wedi codi £10bn ar gyfer prosiectau gwyrdd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Llyr Gruffydd AS,

“Mae cymaint o botensial yng Nghymru – yn ein tirwedd a’n hadnoddau naturiol – a’r allwedd fydd sut yr ydym yn manteisio ar hynny.

“Byddai Bond Gwyrdd Cymreig yn caniatáu buddsoddi yn ein hamgylchedd, ein heconomi a’n seilwaith, ac yn caniatáu i ni ariannu ymdrechion datgarboneiddio.

“Er mwyn gwneud hynny, rhaid inni geisio’r pwerau sydd eu hangen i wireddu potensial a manteision amgylcheddol ac economaidd ein hadnoddau naturiol yn llawn.  Rhaid i Lywodraeth Cymru geisio datganoli pwerau dros ystâd y goron a phwerau ynni yn llawn.

“Dylai adnoddau Cymru gael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru, i bobl Cymru, a byddai Bond Gwyrdd Cymru yn caniatáu i ni gadw cyfran fwy o arbedion yng Nghymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.