18 C
Llanelli
Saturday, August 15, 2026
Home Farming Pa effaith gaiff diet gwahanol ar ansawdd porc?

Pa effaith gaiff diet gwahanol ar ansawdd porc?

0
404
Kyle and Lauren 3 scaled
Kyle and Lauren 3 scaled

Heddiw ers i bandemig Covid 19 ddechrau mae cynnydd yn y nifer o ffermwyr sy’n gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol i’r defnyddiwr, mae’n bwysig bod ansawdd y cynnyrch a werthir o’r safon uchaf, gyda hyn mewn golwg mae Cyswllt Ffermio a Menter Moch Cymru wedi bod yn gweithio gyda Fferm Forest Coalpit ar brosiect i fynd i’r afael â’r awydd cynyddol tuag at ddulliau cynhyrchu mwy cynaliadwy.

Mae’r prosiect wedi bod yn dadansoddi ac yn cymharu ansawdd porc o ddau grŵp triniaeth: un grŵp wedi’i fagu ar gyfuniad o borthiant a dwysfwyd a’r llall ar ddwysfwyd yn unig.

Bydd canlyniadau’r prosiect a gasglwyd yn dilyn yr asesiadau a gynhaliwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn cael eu trafod gan Caroline Mitchell o FQM Global mewn gweminar arbennig a gynhelir gan Cyswllt Ffermio a Menter Moch Cymru ar Dachwedd 18fed am 7yh.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Bydd y weminar yn gyfle cyffrous i edrych ar yr effeithiau y gall dietau gwahanol eu cael ar ansawdd porc a gallai ychwanegu gwerth at y cynnyrch.”

Mae ansawdd porc yn bwysig iawn i Kyle Holford a Lauren Smith o Fferm Forest Coalpit, sy’n rhedeg eu cenfaint 20 hwch eu hunain ac yn gorffen buches o’u brîd eu hunain o foch ‘Du Cymreig’ (Du Mawr X Duroc) ar borfa a choetiroedd ar eu fferm yn y Bannau Brycheiniog.

Maent yn cigydda ac yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid mewn blychau porc a hefyd yn cyflenwi bwytai a chigyddion sydd wedi ennill gwobrau.

Fodd bynnag, ers i’r pandemig Covid 19 ddechrau, mae eu porc yn cael ei werthu yn bennaf trwy flychau a chigyddion.

Meddai Kyle Holford: “Rwy’n aml yn eistedd yn bwyta rhywfaint o’n porc yn meddwl pam ei fod yn blasu mor arbennig, yn amlwg mae’n amrywiaeth o ffactorau brîd, maes, rheolaeth a diet. Roeddwn i eisiau gwneud y prosiect hwn er mwyn darganfod pa rôl oedd gan borthiant ar flas a gweld y buddion a ddaw yn ei sgil.

“Roedd ein prif ffocws ar ddadansoddi’r brasterau gan mai dyma le mae’r gwahaniaeth i’w weld ar rywogaethau eraill. Yn ogystal â hyn fe wnaethom bwyso’r moch drwyddi draw i weld os yw porthiant yn dod ag unrhyw fuddion cynhyrchu hefyd. O’r prosiect hwn rydym yn gobeithio dysgu gwerth porthiant mewn cynhyrchu moch awyr agored p’un a yw’n dod o fudd cynhyrchu, blas neu ar gyfer dal a storio carbon a buddion amgylcheddol,” ychwanegodd.

Mae’r prosiect hwn yn ceisio mynd i’r afael â’r awydd cynyddol gan ddefnyddwyr i weld ansawdd ac olrhain yn eu cynnyrch.

Ychwanegodd Dafydd Owen, Swyddog Technegol Moch i Cyswllt Ffermio: “Mae mynychu’r weminar yn gyfle grêt i glywed am y prosiect arloesol sy’n digwydd yn Forest Coalpit. Mae’n gyfle da hefyd i ddod i wybod mwy am y system mae Kyle a Lauren yn rhedeg ac i ofyn unrhyw gwestiwn sydd gennych”

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.