16.5 C
Llanelli
Thursday, October 15, 2026
Home Local News Cefnogaeth Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Hosbisau Plant Hope House a Thŷ Gobaith...

Cefnogaeth Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Hosbisau Plant Hope House a Thŷ Gobaith ar y trywydd iawn

0
525
f6ea38fcedfe497f86583ad1b4aa9e0c
f6ea38fcedfe497f86583ad1b4aa9e0c
Transport For Wales News

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi datgelu dyluniad newydd ar un o’i drenau blaenllaw i gefnogi hosbisau Hope House a Tŷ Gobaith sydd wedi’u lleoli yng nghanol a gogledd Cymru.

Mae Hope House a Tŷ Gobaith yn darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n peryglu bywyd, a’u teuluoedd sydd o chanol a gogledd Cymru.  Mae hefyd yn cynnwys gofal seibiant ac argyfwng, gofal diwedd oes, a chymorth cwnsela a phrofedigaeth.

Pleidleisiodd aelodau’r cyhoedd, trwy gyfrif Twitter TrC, dros dair elusen yr hoffent weld y sefydliad yn eu cefnogi trwy frandio nifer o’r trenau.  Dyma’r elusennau a ddewiswyd:

  1. Hope House & Tŷ Gobaith   
  2. RNLI   (elusen bad achub)
  3. Cymdeithas Alzheimer   Cymru (elusen dementia)

Mae set o gerbydau Mark IV y mae TrC newydd eu cyflwyno i’r gwasanaeth wedi’u haddurno gyda brand dwyieithog Hope House a Tŷ Gobaith.  Pan fydd trên Tŷ Gobaith yn gwneud ei ffordd ar hyd rhwydwaith Cymru a’r Gororau, credir y bydd y nifer y bobl y bydd yn gweld y trên cymaint a channoedd o filoedd, yn enwedig gan fod mwy a mwy o bobl yn dychwelyd i deithio ar drenau.  

Bethan Jelfs

Dywedodd Cyfarwyddwr Pobl a Newid TrC, Bethan Jelfs: “Mae elusen Hope House a Tŷ Gobaith yn elusen fendigedig sydd wir yn cael effaith ar gymaint o blant a theuluoedd, yn aml ar yr adegau mwyaf heriol.  Mae Trafnidiaeth Cymru yn hynod o falch o allu cefnogi’r elusen anhygoel hon.

“Edrychaf ymlaen at weld trên Hope House a Tŷ Gobaith yn teithio ar hyd ein rhwydwaith o amgylch Cymru a thu hwnt a gobeithio y bydd y cannoedd o filoedd o bobl a fydd yn gweld y trên yn cefnogi’r elusen.”

Ychwanegodd Simi Epstein, Cyfarwyddwr Codi Arian yr elusen: “Roeddem wrth ein boddau o gael ein dewis i ymddangos ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru.  Rydym eisoes yn cael llawer o alwadau gan deuluoedd sy’n llawn cyffro am eu bod wedi gweld ein logo yn teithio trwy eu gorsafoedd lleol.

“Diolch yn fawr iawn i Drafnidiaeth Cymru am ein gwahodd i fod yn rhan o’r hyrwyddiad newydd cyffrous hwn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.