9.9 C
Llanelli
Thursday, October 8, 2026
Home Newyddion Lle MAE’R ARGYFWNG TAI YN ARGYFWNG CENEDLAETHOL

MAE’R ARGYFWNG TAI YN ARGYFWNG CENEDLAETHOL

0
549
d5eeab8d9fb4aaa88e8210ede24d6655
d5eeab8d9fb4aaa88e8210ede24d6655

Plaid Cymru yn galw am newidiadau i gyfraith cynllunio

Cyn rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar dai ddydd Sadwrn, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru ar dai a chynllunio:

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson dros ddegawdau lawer yn ein galwadau ar Lywodraeth i gymryd camau i ddatrys yr argyfwng tai – gyda ail gartrefi ond yn un rhan o greisis ehangach.

“Mae angen i ni weld cyfraith gynllunio’n newid fel bod newid yn nefnydd gyfreithiol y rhai sy’n dymuno prynu tŷ fel ail gartref neu fel buddsoddiad gwyliau; mae angen cynyddu’r Dreth Trafodiadau Tir yn sylweddol ar ail gartrefi; mae angen cau’r bwlch cyfreithiol (loophole) sy’n caniatáu i berchnogion droi eu heiddo’n fusnes er mwyn osgoi talu Treth y Cyngor; ac mae angen rheoleiddio cartrefi gwyliau tymor byr gyda threfn drwyddedu.

“Nid argyfwng sy’n wynebu ychydig o gymunedau yw’r broblem o fforddiadwyedd a phobl yn cael eu prisio allan o’u cymunedau – mae hwn yn argyfwng cenedlaethol, ac mae angen cymryd camau i reoli pris tai a rhenti fel eu bod yn adlewyrchu’r economi leol yn well. Mae cymunedau yng Nghaerdydd, Gwent, Wrecsam, yn ogystal ag arfordir gorllewin Cymru yn galw am ymyrraeth a hynny ar frys.”

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.