16.8 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle Cronfa gymorth gwerth £51m i helpu teuluoedd sy’n dioddef waethaf o ganlyniad...

Cronfa gymorth gwerth £51m i helpu teuluoedd sy’n dioddef waethaf o ganlyniad i’r argyfwng costau byw

0
432
Money
Money
Welsh Government

Cyhoeddodd Gweinidogion Cymru heddiw y bydd pecyn cymorth newydd gwerth £51m yn helpu teuluoedd sy’n wynebu’r argyfwng costau byw i dalu eu biliau’r gaeaf hwn.

Mae Llywodraeth Cymru’n rhyddhau arian ychwanegol o’i chronfeydd wrth gefn i helpu aelwydydd incwm is, gan ddarparu cymorth ar unwaith i bobl sy’n wynebu costau byw cynyddol y gaeaf hwn. 

Bydd cam cyntaf y Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn targedu gwresogi a bwyta – gan roi cymorth ychwanegol i deuluoedd dalu eu biliau ynni dros y gaeaf a rhoi arian ychwanegol i fanciau bwyd a chynlluniau bwyd cymunedol.

Daw hyn wrth i Lywodraeth y DU wrthod gwrthdroi’r penderfyniad i dynnu’r cynnydd o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol sydd wedi bod yn allweddol i ddegau o filoedd o deuluoedd, ac mae Banc Lloegr yn rhybuddio y bydd chwyddiant yn codi i 5% erbyn y gwanwyn, gan wthio prisiau hyd yn oed yn uwch.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Mae teuluoedd ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw go iawn o ganlyniad i brisiau cynyddol a thoriadau i fudd-daliadau allweddol.

“Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r heriau digynsail hyn, rydym yn darparu £51m i ddatblygu ein cronfa bwrpasol ein hunain, sef y Gronfa Gymorth i Aelwydydd, i helpu gyda rhai o’r costau y mae teuluoedd yn eu hwynebu.

“Lle mae San Steffan wedi methu â chefnogi teuluoedd, bydd Llywodraeth Cymru’n camu i mewn ac yn cefnogi ein cymunedau drwy’r cyfnod heriol hwn.”

Mae Jane Hutt , y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi amlinellu’r mesurau cyntaf a gaiff eu hariannu.

Bydd mwy na £38m ar gael drwy Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i aelwydydd sy’n derbyn budd-daliadau oedran gweithio sy’n seiliedig ar brawf modd.

Bydd aelwydydd cymwys yn gallu hawlio taliad untro o £100. Bydd ar gael i bob cwsmer ynni cymwys p’un a ydynt yn talu am eu tanwydd ar ragdaliad neu fesurydd credyd.

Mae mwy na £1.1m hefyd wedi’i ddarparu i gefnogi a chryfhau banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a chanolfannau cymunedol. Bydd hyn yn eu helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd a darparu ystod ehangach o wasanaethau i helpu pobl a theuluoedd i wneud y mwyaf o’u hincwm. Mae’n cynnwys ymestyn y prosiect Bocs Bwyd Mawr llwyddiannus i 25 ysgol arall.

Dywedodd Ms Hutt:

“Rydym yn poeni’n fawr y bydd yr argyfwng costau byw, sy’n digwydd mor agos at y Nadolig, yn gorfodi teuluoedd i droi at fenthycwyr cost uchel neu fenthycwyr arian didrwydded anghyfreithlon i helpu i gael dau ben llinyn ynghyd.

“Bydd y gronfa hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r dewisiadau amgen a all fod o help.

“Mae’r rhan fwyaf o’r pwerau i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn yn nwylo Llywodraeth y DU ond rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu teuluoedd drwy’r gaeaf hwn.

“Byddwn yn eich cefnogi chi, eich teuluoedd, eich busnesau a’ch cymuned drwy’r cyfnod digynsail hwn.”

Bydd cyhoeddiadau pellach am y Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn ystod yr wythnosau nesaf.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.