16.3 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Charity Elusennau Iechyd Hywel Dda ar brynu peiriant biopsi £ 50,000

Elusennau Iechyd Hywel Dda ar brynu peiriant biopsi £ 50,000

0
490
Biopsy machine for Urology picture new
Biopsy machine for Urology picture new

Mae peiriant biopsi o’r prostad o’r radd flaenaf, gwerth £50,000, wedi cael ei brynu i’w ddefnyddio yn Ysbyty’r Tywysog Philip ac Ysbyty Glangwili, diolch i roddion elusennol i wasanaethau wroleg lleol, gan gynnwys rhodd o £30,000 gan Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru.

Bydd y cyfarpar diagnostig newydd yn trawsnewid y ffordd y mae diagnosis o ganser y prostad yn cael ei wneud, yn ôl y Meddyg Ymgynghorol Wroleg Mr Yeung Ng, ac yn galluogi’r tîm Wroleg i barhau i ddatblygu’r gwasanaeth biopsi targededig yn lleol.

Dywedodd y Meddyg Ymgynghorol, Mr Ng: “Bydd y cyfarpar newydd yn ein galluogi i ddyblu ein galluedd i wneud biopsïau o’r prostad, ac yn caniatáu i ni gynnal y biopsïau hefyd.

Yn y llun, o’r chwith, yn y digwyddiad cyflwyno’r siec, y mae: Lianne Wood, Rheolwr y Gwasanaeth Wroleg; Angharad Watkins, Nyrs Glinigol Arbenigol; Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Mr Yeung Ng, y Meddyg Ymgynghorol; David Goddard, Ken Jones a Iori Rees o Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru; a Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda.

“Bydd y cyfarpar yn caniatáu i ni gynnal biopsïau trawsberineol, sy’n driniaethau mwy diogel ac sydd â chyfradd is o ran heintiau gan nad oes raid i ni wneud y biopsi trwy’r rectwm, ac mae’r cyfraddau diagnostig hefyd yn well.

“Mae’r Adran Wroleg yn hynod o ddiolchgar am y rhoddion elusennol a gafwyd sydd wedi ei gwneud yn bosibl i ni brynu’r cyfarpar hwn, yn ogystal ag am y gefnogaeth barhaus y mae Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru wedi’i rhoi i ni.

Mae’r cymorth gan ein cymunedau lleol wedi ein helpu i gael cyfarpar diagnostig y prostad o’r radd flaenaf, sy’n ein paratoi’n dda ar gyfer pontio i fod yn wasanaeth y prostad trawsberineol wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth biopsi targededig ar yr un pryd.

“Mae’r gefnogaeth hon yn helpu i drawsnewid y modd yr ydym yn gwneud diagnosis o ganser y prostad, yn enwedig gan fod cleifion wedi gorfod teithio i fwrdd iechyd cyfagos yn y gorffennol i gael y biopsi blaengar hwn.”

Dywedodd Ken Jones, cadeirydd Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru: “Mae ein grŵp yn cynnig cymorth i ddynion sy’n byw yng Ngorllewin Cymru, a’u partneriaid.

“Er nad ydym yn sefydliad sy’n mynd ati i godi arian, rydym yn aml yn cael rhoddion gan bobl yr ydym wedi’u helpu. Felly, pan fyddwn yn gallu, rydym yn rhoi symiau mwy i feysydd lle mae eu hangen, megis y byrddau iechyd ac elusennau ymchwil canser sy’n gweithio yng Ngorllewin Cymru.

“Mae’n bleser gennym allu cynorthwyo i brynu’r cyfarpar hwn a fydd yn helpu yng ngwaith Adran Wroleg Hywel Dda.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.