13.7 C
Llanelli
Friday, October 16, 2026
Home Events Cyhoeddi dathliadau Canmlwyddiant yr Urdd – deufis i fynd

Cyhoeddi dathliadau Canmlwyddiant yr Urdd – deufis i fynd

0
403
Sian Lewis a Mistar Urdd
Sian Lewis a Mistar Urdd

Parti Pen-blwydd mwyaf yn hanes y mudiad ac ymgeisio am ddau deitl GUINNESS WORLD RECORDS™

Mae mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru, Urdd Gobaith Cymru yn dathlu ei ganmlwyddiant yn 2022, a heddiw (25 Tachwedd) mae’n cyhoeddi rhai o’r cynlluniau ar gyfer blwyddyn gyffrous o ddathlu i nodi’r garreg filltir hon yn ei hanes. Ers 1922, mae’r Urdd wedi darparu cyfleoedd i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc Cymru fwynhau profiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol a gwirfoddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Union ddeufis i heddiw, ar 25 Ionawr 2022, bydd dathliadau’r flwyddyn yn dechrau gyda Pharti Pen-blwydd mwyaf yn hanes y mudiad ar ddiwrnod Cariad @ Urdd. Bydd yr Urdd a’r genedl gyfan yn ymgeisio amddau deitl Guinness World Records™ drwy gyd-ganu ac uwchlwytho fideos o’r gân eiconig, Hei Mistar Urdd, i Twitter a Facebook. Cynhelir parti arbennig ar gyfer ysgolion Cymru yng nghwmni cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, a ddarlledir yn fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Does dim dwywaith fod y cyfnod ers mis Mawrth 2020 wedi bod y cyfnod mwyaf heriol yn ein hanes. O ganlyniad i bandemig Covid-19, bu’n rhaid cau ein gwersylloedd a daeth ein gweithgareddau cymunedol, chwaraeon a chelfyddydol arferol i stop. 

“Ond, rydym yn ail-adeiladu, ac mi fydd blwyddyn ein canmlwyddiant yn flwyddyn i’w chofio, gyda chynlluniau pob adran yn adlewyrchiad o’n hysbryd a’n huchelgais. Rydym hefyd yn buddsoddi yn sylweddol yn ein gwersylloedd a bydd tri agoriad cyffrous yn 2022; agoriad y Gwersyll amgylcheddol cyntaf o’i fath yng Nghymru ym Mhentre Ifan, Sir Benfro; agoriad Calon y Gwersyll yn Llangrannog ac agoriad Canolfan Ddŵr newydd yng Nglan-llyn.”

Sian Lewis a Mistar Urdd

Bydd rhai o uchafbwyntiau eraill y flwyddyn yn cynnwys teithiau rhyngwladol i bobl ifanc i America, Iwerddon a Norwy; sy’n cynnwys cynlluniau arbennig ar gyfer Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r canmlwyddiant. A bydd yr Adran Chwaraeon yn arwain ar ŵyl Gemau Trefol Cymru ym Mae Caerdydd – a fydd yn arddangos chwaraeon Olympaidd newydd megis BMX a sglefr fyrddio; Cynhadledd Chwaraeon Ieuenctid Benywaidd cyntaf Cymru, sef #FelMerch; yn ogystal â chynnal Thwrnamaint Urdd WRU Rygbi 7 bob ochor. Hefyd cynhelir Cyngerdd Dathlu Canmlwyddiant yr Urdd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; mae S4C wedi comisynu cyfres gyffrous sy’n mynd â ni’n nôl i Langrannog drwy’r degawdau a gaiff ei ffilmio dros y Gwanwyn gan Boom Cymru; a bydd y cynhyrchiad theatr Sioe Mewn Cymeriad ‘Canrif Syr Ifan’ yn teithio o amgylch ysgolion Cymru.

Parhaodd Siân Lewis wrth sôn am y dathliadau: “Galwaf ar holl ysgolion Cymru, aelwydydd, gwirfoddolwyr, busnesau a mudiadau, ac aelodau hen a newydd i ymuno ym mharti mwyaf ein hanes! Mae hwn yn gyfle i chi ddathlu ac yn gyfle i ni ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan fach neu fawr i wneud yr Urdd yn fudiad allweddol bwysig i Gymru a’r Cymry. Cofrestrwch i fod yn rhan o’r parti a’r ymgais amddau deitl Guinness World Records™ ddeufis i heddiw, ac i weld enw eich ysgol, aelwyd neu sefydliad ar fap o Gymru ar ein gwefan, a rhannwch eich bod wedi ymuno gan ddefnyddio #Urdd100.”

I gyd-fynd gyda datganiad cynlluniau’r canmlwyddiant ac Wythnos Archwiliwch Eich Archif, mae cartref swyddogol archif yr Urdd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi croesawu Mistar Urdd i ymweld â’i archif ei hun ac yn awyddus i atgoffa pawb o bwysigrwydd archifau fel cofnod hanesyddol o bwys. Gellir dysgu am bob agwedd o waith yr Urdd dros y ganrif ddiwethaf yn archif y llyfrgell yn Aberystwyth lle mae cofnod o’r cyfan ar gael.

Yn ogystal â dathlu’r wythnos archif gyda Mistar Urdd yr wythnos hon, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i nodi blwyddyn arbennig yr Urdd, gan gynnwys arddangosfeydd a gweithdai.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: “Mae’r  Urdd yn parhau i fod yn fudiad cenedlaethol anhepgorol sy’n dal i gyfoethogi bywydau plant a phobl ifanc a hyrwyddo’r Gymraeg yr un pryd, a hynny canmlynedd ers iddo gael ei sefydlu.   Ni ellid mesur maint cyfraniad y mudiad i’n bywyd cenedlaethol a braf yw medru dweud fod llawer o waith y mudiad wedi’i gofnodi yma yng nghasgliadau’r Llyfrgell, mewn archif, llyfrau, sain a delweddau symudol. Mae’r cyfan yn brawf o weithgaredd mudiad y dylem ni i gyd fod mor falch ohono. Braint o’r mwyaf ydy cael bod yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd a chael cwrdd â Mistar Urdd ei hun, un o’m harwyr i!”

I fynychu Parti Pen-blwydd yr Urdd ac i ymuno yn yr ymgais amddau deitl Guinness World Records™ mae angen cofrestru ar wefan yr Urdd: www.urdd.cymru/100. Wrth i ysgolion a mudiadau gofrestru byddant yn ymddangos ar fap ar wefan y canmlwyddiant, ble mae fideos ac adnoddau parti ar gael i bawb. Yn ogystal â mynychu’r parti mae’r Urdd yn gwahodd partneriaid, busnesau, ysgolion a mudiadau ledled Cymru i nodi’r canmlwyddiant drwy chwifio baner yr Urdd ar 25 Ionawr. Mae Senedd Cymru, Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Big Pit ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ynghyd â nifer o adeiladu eiconig eraill Cymru wedi ymrwymo eisoes i chwifio baner yr Urdd, a gellir archebu baner drwy wefan yr Urdd.

Bydd rhagor o weithgareddau’r canmlwydiant yn cael ei cyhoeddi dros y misoedd nesaf ar wefan y canmlwyddiant www.urdd.cymru/100.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.