12.9 C
Llanelli
Wednesday, May 20, 2026
Home Newyddion Lle Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfarwyddyd i gau Cinema & Co yn Abertawe

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfarwyddyd i gau Cinema & Co yn Abertawe

0
589
cinemaco
cinemaco
Welsh Government News

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i gau Cinema & Co yn Abertawe am resymau’n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd.

O dan Ddeddf Coronafeirws 2020, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i gymryd camau yn erbyn safleoedd penodol os ydynt o’r farn bod y safle’n peri risg i iechyd y cyhoedd.

Er mwyn cefnogi Cyngor Abertawe a diogelu iechyd y cyhoedd, mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd o dan y Ddeddf i gau Cinema & Co yn Abertawe.

Yn ddiweddar, nododd yr awdurdod lleol hwnnw fod nifer o achosion o dorri’r Rheoliadau Coronafeirws ar y safle.

Cyflwynwyd hysbysiad i’r safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gau oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd.

Gan fod y perchennog wedi dewis peidio â chydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi cymryd rhagor o gamau gorfodi.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud sylw pellach ar achosion cyfreithiol sy’n dal i fynd rhagddynt.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here