18.1 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle Cadw Cymru’n Ddiogel wrth i achosion Omicron gynyddu

Cadw Cymru’n Ddiogel wrth i achosion Omicron gynyddu

0
589
Disrupt the transmission gif Welsh
Disrupt the transmission gif Welsh
Welsh Government

Mae prif feddyg Cymru wedi annog pawb i gymryd camau i amddiffyn eu hunain rhag Covid-19 gan fod cyfraddau achosion yn codi i’w lefelau uchaf yn y pandemig.

Fe wnaeth Dr Chris Jones, dirprwy brif swyddog meddygol Cymru, annog pobl ledled Cymru i gael eu brechiad atgyfnerthu a dilyn mesurau i leihau lledaeniad y feirws.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfraddau achosion wedi codi’n sydyn i fwy na 910 o achosion fesul 100,000 o bobl – y lefelau uchaf ers dechrau’r pandemig.

Mae tua 6,000 o heintiau newydd yn cael eu cadarnhau bob dydd, a bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hachosi gan yr amrywiolyn omicron newydd.

Mae mwy na 54% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu brechiad atgyfnerthu.

Meddai Dr Jones:

“Rydym yn gweld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o Covid-19 a achosir gan omicron ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain ymysg pobl iau a chredwn y byddent wedi cael eu dal cyn y Nadolig.

“Mae’r amrywiolyn newydd hwn yn cael ei drosglwyddo’n hawdd iawn – mae’n lledaenu’n gyflym iawn ble bynnag y bydd pobl yn dod at ei gilydd.

“Cymerwch gamau i amddiffyn eich hun a’ch anwyliaid. Mae hyn yn golygu gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do; cadw eich pellter oddi wrth bobl eraill lle bynnag y bo modd ac, os gallwch, lleihau nifer y bobl yr ydych yn eu cyfarfod yn rheolaidd.

“Os oes gennych chi symptomau, dylech hunanynysu a threfnu i gael prawf PCR.

“Cofiwch hefyd gael eich brechiad atgyfnerthu – dyma’r ffordd orau o amddiffyn ein hunain.

“Mae Cymru ar lefel rhybudd dau ac mae mesurau amddiffyn newydd yn eu lle. Mae hwn yn gyfnod pryderus ond os ydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd ac yn gofalu am ein gilydd, gallwn gadw Cymru’n ddiogel.”  

Ar Ŵyl San Steffan yng Nghymru, daeth mesurau lefel rhybudd dau newydd i rym ar gyfer busnesau a chanllawiau wedi’u diweddaru a’u cryfhau i helpu pobl i gadw’n ddiogel gartref mewn ymateb i’r don omicron a ragwelir.

Y pethau allweddol y gall pawb eu gwneud i leihau eu risg o ddal y coronafeirws:

  • Cael eich brechu’n llawn, gan gynnwys cael eich brechiad atgyfnerthu – mae’r brechiad yn cynnig amddiffyniadau sylweddol i chi ac i’r bobl rydych chi’n gofalu amdanynt.
  • Dylech hunanynysu a chael PCR os oes gennych symptomau Covid-19. Osgoi pobl eraill pan fyddwch yn sâl.
  • Gwneud profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos os nad oes gennych unrhyw symptomau a gwneud prawf llif cyn i chi fynd allan neu gwrdd â phobl. Os yw’n gadarnhaol peidiwch â mynd a threfnwch brawf PCR.
  • Cadwch eich pellter oddi wrth eraill lle bynnag y bo modd.
  • Cyfyngwch ar nifer y bobl rydych chi’n cwrdd â nhw, yn enwedig os ydych chi’n cwrdd â gwahanol bobl yn aml.
  • Dylech gwrdd yn yr awyr agored os gallwch neu mewn mannau sydd wedi’u hawyru’n dda.
  • Dylech osgoi mannau llawn pobl lle bo hynny’n bosibl.
  • Golchwch eich dwylo; tisian i hances a chadw arwynebau mae llawer o bobl yn eu cyffwrdd yn lân.
  • Gwisgwch orchudd wyneb, yn enwedig mewn mannau llawn pobl.
  • Defnyddiwch Bàs COVID y GIG neu dangoswch ganlyniad prawf llif unffordd negyddol i fynd i ddigwyddiadau mawr, lleoliadau, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.