17.7 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Newyddion Lle Cynllun iechyd a lles anifeiliaid yn allweddol i ddyfodol Cymru – Gweinidog...

Cynllun iechyd a lles anifeiliaid yn allweddol i ddyfodol Cymru – Gweinidog Materion Gwledig

0
543
PigsImage
PigsImage
Welsh Government

Mae gwella safonau mewn ffordd sy’n diogelu masnach ac yn creu sector ffermio mwy cynaliadwy yn allweddol i Gynllun Gweithredu Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd Llywodraeth Cymru.

Dyma’r neges gan y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wrth i’r Cynllun Gweithredu terfynol a gyhoeddir o dan y Fframwaith cyfredol gael ei lansio heddiw, ar gyfer 2022-24.

Mae Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn datgan cynllun 10 mlynedd (2014-2024) ar gyfer gwelliannau parhaus ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid a gedwir, gan gyfrannu hefyd at ddiogelu iechyd y cyhoedd, yr economi a’r amgylchedd. Bydd fframwaith newydd yn cael ei gyflwyno yn 2024.

Mae Cynllun Gweithredu 2022-24 yn cael ei gyhoeddi yn wyneb yr heriau cyfun mae pandemig y coronafeirws, gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â’r argyfwng hinsawdd yn eu hachosi ac mae’n cael ei gyflwyno wrth i gyfres sylweddol o achosion o ffliw adar ddod i’r amlwg ledled y DU.

Mae’r uchelgais i sicrhau’r safonau uchaf un yng Nghymru yn cael ei gofnodi ym mhrif ddyheadau’r cynllun “Un Iechyd, Un Lles a Bioddiogelwch”, sy’n cynnwys pob agwedd ar iechyd a lles anifeiliaid yn ogystal â’r rhyngweithio cymhleth ag iechyd a lles pobl, a’r amgylchedd.

Mae’r cysyniadau Un Iechyd ac Un Lles yn cydnabod bod iechyd pobl ac iechyd a lles anifeiliaid yn rhyngddibynnol, ac yn dibynnu ar iechyd a lles yr amgylchedd maent yn cydfodoli ynddo. Mae’r dull hwn yn canolbwyntio ar gyflawni gwell canlyniadau drwy gydweithredu a chyfathrebu mwy effeithiol ar draws sawl sector.

Mae’r cynllun yn mynd i’r afael ag agweddau allweddol ar iechyd a lles anifeiliaid, ac yn pwysleisio bioddiogelwch sy’n gyfrifoldeb i bawb. Mae hon yn neges arbennig o bwysig wrth i lefelau digynsail o ffliw adar gael eu profi ledled y DU. Bioddiogelwch craff yw’r dull gorau o ddiogelu adar dof rhag haint.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’r tirlun wedi newid yn ddramatig ers gadael yr UE ac mae pandemig y coronafeirws yn sicr wedi profi ein gwytnwch ni.

“Mae adfywio ac ail-lansio ein Cynllun Gweithredu bellach yn rhoi cyfle i roi lle blaenllaw i iechyd a lles anifeiliaid wrth fynd i’r afael â’r materion a’r heriau sy’n ein hwynebu mewn ffordd gynaliadwy, gydweithredol a chydlynol.

“Rydyn ni eisiau i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein Rhaglen Lywodraethu, gan roi cyfle i ni adeiladu ar bopeth rydyn ni wedi’i gyflawni ers i bwerau iechyd a lles anifeiliaid gael eu datganoli i Gymru.

Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn ategu’r Cynllun Lles Anifeiliaid pum mlynedd ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd. Mae’r strategaethau a’r camau gweithredu ym mhob un yn integredig ac yn rhyngddibynnol, gan ddangos ein penderfyniad i weithio mewn ffordd gydlynol.

“Bydd ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig yn cynnwys iechyd a lles anifeiliaid fel elfen allweddol hefyd, yn seiliedig ar ein huchelgais ar y cyd i wella enw da Cymru ymhellach fel cenedl sy’n caru, yn gofalu am ac yn parchu ei hanifeiliaid.

“Mae cwmpas y Cynllun Gweithredu hwn yn eang a thrwy wirioneddol weithio ar y cyd, rwy’n hyderus y gallwn barhau i godi safonau iechyd a lles anifeiliaid.”

Gellir gweld Cynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru 2022-24 yn: https://llyw.cymru/fframwaith-iechyd-lles-anifeiliaid-cynllun-gweithredu-2022-2024 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.