16.8 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Charity Canolbwyntio ar Uned Ddydd Cemotherapi

Canolbwyntio ar Uned Ddydd Cemotherapi

0
561
chemo staff picture 2 new scaled
chemo staff picture 2 new scaled

Mae staff yn edrych ymlaen at helpu i siapio’r Uned Cemotherapi Dydd newydd yn Ysbyty Bronglais.

Yn dilyn lansiad Apêl Cemo Bronglais i godi’r £500,000 terfynol ar gyfer uned ddydd bwrpasol ac wrth i’r apêl fagu momentwm, mae staff yr uned yn gyffrous am y cynlluniau a’r hyn y byddant yn ei olygu i gleifion.

Bydd dyluniad terfynol yr uned newydd yn cael ei arwain gan staff sy’n gwybod orau beth ddylai’r uned ei ddarparu a sut y dylai’r amgylchedd fod. Bydd cleifion a rhanddeiliaid allweddol eraill hefyd yn cymryd rhan yn y broses hon.

Dr Elin Jones

Dywed arweinydd clinigol yr uned newydd Dr Elin Jones y bu siarad a gobaith ac uchelgais ynglŷn â chael uned cemotherapi dynodedig yn Ysbyty Bronglais ers dros 20 mlynedd.

“Mae gan Ysbyty Bronglais yr uchelgais a’r ysfa ers amser maith i ddarparu’r gwasanaeth gorau i gleifion canser. Yn ystod fy nghyfnod ym Mronglais mae wedi bod yn amlwg, er bod y gwasanaeth gan y tîm cyfan wedi bod yn rhagorol, nad yw’n cael ei ddarparu mewn uned sy’n addas at y diben,” meddai Elin.

“Bydd uned newydd yn amddiffyn y gwasanaeth yn y dyfodol oherwydd wrth i driniaethau canser ehangu a datblygu, rydym yn gweld mwy o gleifion yn byw gyda’u diagnosis canser ac yn derbyn triniaeth barhaus.

“Bydd yr uned yn darparu triniaeth a gofal sy’n amddiffyn urddas a phreifatrwydd a bydd yn lle dymunol lle nad oes ots gan gleifion dreulio amser.

“Ac i staff bydd yn rhoi hwb mawr i forâl, oherwydd nid yn unig y byddan nhw’n falch o’r gwaith maen nhw’n ei wneud ond hefyd sut maen nhw’n ei drosglwyddo i gleifion.”

Rhian

Dywedodd Rhian Jones, Nyrs Arbenigol Glinigol: “Fy ngobeithion yw y gallwn gael ardal driniaeth sy’n gyffyrddus, lle gellir cynnal preifatrwydd ac urddas, a lle mae’r cynllun wedi’i ddylunio fel bod cleifion allanol yn cael eu gweld mewn ardal ar wahân i’r rhai sy’n cael triniaeth.

“Mae cleifion a staff yn edrych ymlaen at uned bwrpasol, a fydd yn ategu’r gofal rhagorol sy’n cael ei ddarparu,” ychwanegodd Rhian, a oedd yn Uwch Brif Nyrs ar yr Uned am 16 mlynedd cyn cymryd secondiad tair blynedd yn ddiweddar i rôl Nyrs Glinigol Oncoleg Macmillan.

Eirian

Dywedodd Eirian Gravell, Nyrs Haematoleg Arbenigol, sydd wedi bod yn rhan o’r tîm ers 22 mlynedd: “Mae angen uned bwrpasol arnom a all ddarparu ar gyfer pob claf, gan gofio ein bod yn darparu gwasanaeth i drigolion Ceredigion, de Gwynedd a gogledd Powys.

“Rhaid iddi fod yn uned lle gall cleifion weld pob aelod o staff, gan gynnwys therapyddion galwedigaethol, deietegwyr, nyrsys arbenigol, yn ogystal â’r tîm cemotherapi. Rydym yn cynnig gofal o safon uchel, heb ei ail. Bydd yn braf cael cyfleuster sy’n adlewyrchu hynny. ”

Dywedodd rheolwr dros dro yr uned, Nyrs Arbenigol Glinigol Cemotherapi Bettina Vance: “Rydyn ni eisiau gwell cyfleusterau ac amgylchedd gwell i gleifion a staff.”

Dywedodd y Nyrs Cemotherapi Patricia Mozafari: “Bydd yn dda cael gorsaf ganolog ar gyfer nyrsys, rhywbeth nad oes gennym ar hyn o bryd, ynghyd ag ystafelloedd ar wahân ar gyfer brechiadau a llenni ar gyfer preifatrwydd, ynghyd ag ardal wybodaeth i gleifion gael mynediad iddi. Bydd uned bwrpasol newydd yn rhoi balchder yn y gwasanaeth i gleifion a staff. ”

Ychwanegodd y Nyrs Cemotherapi Sacha Williams: “Fy ngobeithion ar gyfer yr uned newydd yw y bydd mwy o breifatrwydd i gleifion, gan ddarparu amgylchedd mwy cyfforddus a chroesawgar iddynt, a fydd yn helpu cleifion a staff.”

Dywedodd Stacey Mleczek, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd: “Rydyn ni eisiau gweld uned ddydd cemotherapi sy’n cynnig mwy o breifatrwydd i gleifion mewn amgylchedd mwy cartrefol. Mae angen man aros cleifion arnom hefyd a byddai’n hyfryd cael ystafell staff. “

Dywedodd Rebecca Fletcher, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd: “Bydd amgylchedd mwy disglair gymaint yn fwy croesawgar i gleifion. Bydd y preifatrwydd ychwanegol, gydag ardaloedd pwrpasol i gleifion aros a chael eu gweld, gymaint yn well.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.