7.6 C
Llanelli
Tuesday, October 20, 2026
Home Newyddion Lle Awdurdod y Parc yn cael ei gydnabod am gynorthwyo a datblygu ei...

Awdurdod y Parc yn cael ei gydnabod am gynorthwyo a datblygu ei Aelodau

0
387
5 Needle Rock 02
5 Needle Rock 02

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi canmol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am fynd “y filltir ychwanegol” i gynorthwyo a datblygu ei Aelodau. 

Dyfarnwyd y Freinlen Lefel Uwch i’r Awdurdod am Gynorthwyo a Datblygu Aelodau, ar ôl iddo lwyddo i ddangos “gwaith effeithiol a pharhaus gan y swyddogion a’r Aelodau”.

Bwriad y Freinlen yw sicrhau bod ystod hanfodol o drefniadau cymorth a datblygu ar gael i gynghorwyr, ac mae’r Freinlen Uwch yn brawf pellach bod y trefniadau sy’n ofynnol ar gyfer y Siarter yn gweithio’n effeithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn un o ddim ond tri awdurdod yng Nghymru i ennill y Freinlen Lefel Uwch, ar ôl cael ein cydnabod gan CLlLC am waith caled staff ac Aelodau, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau anodd a ddaeth yn sgil y pandemig byd-eang.

“Roedd yr enghreifftiau a amlygwyd gan CLlLC yn cynnwys y cymorth a roddwyd i Aelodau gael mynediad at y platfform cyfarfodydd ar-lein a’i ddefnyddio. Roedd hyn wedi galluogi’r Awdurdod i barhau i weithredu wrth i gyfyngiadau Covid-19 ei gwneud yn amhosibl cynnal cyfarfodydd pwyllgor wyneb yn wyneb.”

Er mwyn ennill y dyfarniad, roedd rhaid darparu tystiolaeth o’r cyfleusterau ar gyfer cefnogi a datblygu a’r gwasanaethau cymorth a ddarparwyd i Aelodau. Cafodd y gwaith hwn ei adolygu gan Banel o swyddogion CLlLC a swyddogion awdurdodau lleol ac yna mewn cyfres o gyfweliadau gyda’r Aelodau a’r swyddogion.

Mewn llythyr yn llongyfarch yr Awdurdod, dywedodd Panel Adolygu CLlLC: “Mae’r wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarparwyd yn dangos yn glir bod yr holl feini prawf angenrheidiol wedi cael eu bodloni.

“Mae’r aelodau’n elwa o’r arferion gwell a gyflwynwyd ac yn gallu arddangos yr arferion da hyn drwy raglen gynhwysfawr ac effeithiol o gynorthwyo a datblygu. Mae hyn yn galluogi’r Awdurdod i roi trefniadau llywodraethu corfforaethol effeithiol ar waith.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld rhestr o’r awdurdodau lleol sydd wedi derbyn y freinlen a’r freinlen lefel uwch, ewch i wefan CLlLC: https://www.wlga.cymru/wales-charter-for-member-support-and-development-


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.