16.8 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle Hyrwyddwyr Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol i wella gwasanaethau ledled Cymru

Hyrwyddwyr Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol i wella gwasanaethau ledled Cymru

0
461
pexels lisa fotios 2721581 scaled
pexels lisa fotios 2721581 scaled
Welsh Government News

Bydd HyBydd Hyrwyddwyr Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yn cael eu penodi i bob bwrdd iechyd yng Nghymru er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau, mewn cynllun newydd gwerth £1.15 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Byddant yn gweithio’n agos gyda thîm newydd a fydd yn atebol i Brif Swyddog Nyrsio Cymru er mwyn gwella’r diogelwch, y profiad a’r canlyniadau i famau a babanod yng Nghymru.

Bydd y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghymru yn sicrhau dulliau clir a chyson o ymdrin â diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

Bydd y cam cyntaf yn gweld Gwelliant Cymru yn helpu Byrddau Iechyd i nodi blaenoriaethau a gwelliannau allweddol y bydd y Rhaglen yn eu cyflawni, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Bydd yr Hyrwyddwyr Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol ym mhob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn hyrwyddo’r gwelliannau hyn yn lleol.

Bydd yr Hyrwyddwyr yn adrodd yn ôl i grŵp llywio cenedlaethol er mwyn ystyried heriau cenedlaethol, gan gynnwys effaith y pandemig ar wasanaethau ac yn helpu i weithredu’r Weledigaeth 5 mlynedd ar gyfer Gofal Mamolaeth.

Sefydlwyd y Rhaglen yn dilyn y gwersi a ddysgwyd yn sgil argymhellion yr adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghwm Taf Morgannwg a’r Fframwaith Ansawdd a Diogelwch a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Cydnabu’r Fframwaith yr angen am ddull trylwyr, cyson a strategol o ymdrin â diogelwch mewn gwasanaethau mamolaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rwy’n falch iawn o lansio’r Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol. Bydd y Rhaglen yn creu safonau cenedlaethol er mwyn sicrhau bod yr holl fenywod beichiog, babanod a theuluoedd yn cael profiad gofal iechyd diogel o ansawdd uchel ac yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau am y gofal a gânt.

“Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd, sicrhau bod gwasanaethau yn canolbwyntio ar y claf a chreu gweithlu cynhwysol, hyblyg, amlbroffesiynol a thalentog yn flaenoriaethau i’r llywodraeth hon. Bydd y Rhaglen hon hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer gwneud y blaenoriaethau hyn yn ganolog i holl wasanaethau’r GIG.”

Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka:

“Mae menywod a phlant yn ganolog i’r Rhaglen hon sy’n rhoi teuluoedd wrth wraidd penderfyniadau fel bod yr holl fenywod, babanod a’u teuluoedd yn cael y gofal o’r ansawdd uchaf sy’n diwallu eu hanghenion. Mae gwella gwasanaethau mamolaeth yn hanfodol i gefnogi teuluoedd a chymunedau iach a hapus y dyfodol.

“Rwy’n ddiolchgar am frwdfrydedd ac ymrwymiad pawb a gyfrannodd at ddatblygu’r Rhaglen hon a byddwn yn parhau i sicrhau bod beichiogrwydd a genedigaeth yn dal i fod yn brofiad cadarnhaol i deuluoedd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.