7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Ceredigion News Gweithdai Comedi a Theatr am ddim i blant a phobl ifanc yn...

Gweithdai Comedi a Theatr am ddim i blant a phobl ifanc yn ystod yr hanner tymor  

0
468
Eleri Morgan
Eleri Morgan

Mae Amgueddfa Ceredigion wedi cyhoeddi ei rhaglen o weithgareddau yn ystod gwyliau’r hanner tymor, sy’n rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn theatr a chomedi. Cefnogir y rhaglen gan gynllun Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru.

Rhwng 10am a 4pm ddydd Mercher 23 Chwefror, bydd Lucy Gough a Stephanie Tillotson yn cynnal dau weithdy rhad ac am ddim yn Amgueddfa Ceredigion i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed o’r enw ‘Patching the Whole’. Yn y gweithdy cyntaf, bydd y bobl ifanc yn helpu i ysgrifennu geiriau ar gyfer drama Lucy sef Edau Bywyd. Yn yr ail weithdy, byddant yn creu perfformiad 10 munud o hyd ac yn cymryd rhan ynddo. Mae Lucy wedi ysgrifennu ar gyfer radio, teledu a llwyfan, ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau ysgrifennu. Mae hi’n dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd. Mae Stephanie, sy’n ddramodydd ac yn fardd cyhoeddedig, wedi gweithio ym maes radio, theatr a theledu.

Rhwng 10am a 4pm ddydd Iau 24 Chwefror, bydd y gomediwraig Eleri Morgan yn cynnal gweithdy comedi rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc rhwng 7 a 14 oed o’r enw ‘Quick Comedy for Kids’. Yn ystod y gweithdy yn Amgueddfa Ceredigion, bydd Eleri yn datgelu nifer o gynghorion defnyddiol ynglŷn â bod yn gomedïwr neu’n gomediwraig stand-yp. Bydd y sesiwn yn llawn hwyl a gemau a bydd cyfle i’r bobl ifanc gael cynnig arni ar y llwyfan. Mae Eleri yn awdur ac yn gomediwraig stand-yp sydd wedi’i magu yn Aberystwyth a bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi perfformio mewn gigs ledled y DU, gan gynnwys Komedia (Caerfaddon a Brighton); Glee Club (Caerdydd a Birmingham); Gŵyl Fringe Caeredin; a Gwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth. Roedd hi’n gymeriad rheolaidd yn y gyfres gomedi ‘Tourist Trap’ ar y BBC a chyrhaeddodd y rownd gynderfynol yng nghystadleuaeth ‘New Comedian of the Year 2021′ y BBC. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer ‘Mock the Week‘ (BBC1) a rhaglenni ar S4C a BBC Radio 4.

Gyda buddsoddiad ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun Gaeaf Llawn Lles yn annog plant a phobl ifanc 0-25 oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol y tu allan i ddysgu ffurfiol.

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb ar gyfer Porth Ceredigion, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant. Dywedodd: “Ar ôl cyfnod mor heriol, newyddion braf yw bod Amgueddfa Ceredigion, drwy’r cynllun Gaeaf Llawn Lles, yn gallu darparu’r gweithgareddau cyffrous hyn i’n pobl ifanc. Bydd yn eu galluogi i ail-ymgysylltu â chymdeithas, ailgysylltu â ffrindiau, ac ailddarganfod eu hobïau wrth i’r cyfyngiadau barhau i gael eu llacio.”

Mae’r ddau weithdy am ddim, ond mae archebu lle yn hanfodol. Anfonwch e-bost at sarah.morton@ceredigion.gov.uk i archebu lle. 

Cadwch lygad allan am fwy o weithdai yn yr amgueddfa ym mis Mawrth!


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.