5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Ceredigion News Murlun Caredigrwydd gan blant a phobl Ifanc Ceredigion

Murlun Caredigrwydd gan blant a phobl Ifanc Ceredigion

0
505
Dyluniad buddugol Ysgol Bro teifi winning design
Dyluniad buddugol Ysgol Bro teifi winning design

Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaeth Gwasanaeth Ysgolion Ceredigion, Gwasanaeth Ieuenctid, CAVO gyda thîm Cysylltu â Charedigrwydd Ceredigion alw ar bobl ifanc i ddylunio murlun yn seiliedig ar y thema Caredigrwydd a ddechreuodd yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio Cenedlaethol ym mis Tachwedd y llynedd.

Datblygwyd y syniad hwn o ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd Bwrdd Partneriaeth ranbarthol Gofal Gorllewin Cymru (PGGC), gyda’r nod o greu mwy o ddealltwriaeth am fudd ac effaith caredigrwydd i ni a phobl eraill. Mewn ysgolion, mae’r ymgyrch yn pwysleisio sut mae caredigrwydd yn yr ystafell ddosbarth yn annog positifrwydd fydd yn aros gyda’r plant trwy gydol eu bywydau. 

Dyluniad Llanfarian a ddaeth yn ail.

Cyfarfu panel o feirniaid ym mis Rhagfyr i fynd drwy’r llu o ddyluniadau creadigol gwych a dderbyniwyd gan unigolion a grwpiau. Roedd y panel yn cynnwys Poppy Evans, Aelod Seneddol Ieuenctid Prydain a Lloyd Warburton, Aelod Senedd Ieuenctid, Senedd Ieuenctid Cymru lle cytunwyd ar ddau ddyluniad buddugol.

Crëwyd y dyluniad buddugol gan grŵp o ddisgyblion Ysgol Bro Teifi gydag Ysgol Llanfarian yn cyraedd yr ail safle. Rhoddodd Ysgol Llanfarian gyflwyniad at ei gilydd yn esbonio’r broses o sut y bu plant a phobl ifanc o bob oed yn cydweithio i greu’r dyluniad terfynol.

Fel gwobr am ennill y gystadleuaeth dylunio murlun, bydd Deon o ‘Marvellous Murals’ yn dod â’u cynlluniau’n fyw ar safle’r ysgol cyn y gwanwyn eleni. Bydd hyn yn galluogi’r plant a’r bobl ifanc i gael eu hatgoffa o’r neges bwysig o fod yn garedig wrthyn nhw eu hunain ac eraill gyda dyluniad lliwgar a trawiadol y maent wedi’i ddylunio eu hunain.

Casgliad o rai o’r dyluniadau eraill.

Bydd pob ysgol arall a gymerodd rhan sef Llangwyryfon, Rhydypennau, Penweddig, Ysgol Gymraeg, Penrhyncoch, Myfenydd, Padarn Sant a Bro Pedr yn derbyn £200 a bathodyn Cysylltu â Charedigrwydd gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gofal Gorllewin Cymru i’r disgyblion ddathlu eu creadigrwydd a charedigrwydd.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Llongyfarchiadau i Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Llanfarian am ddod i’r brig yn y gystadleuaeth dylunio murlun. Mae’n braf gweld pobl ifanc a phlant yn cael y cyfle i greu celf a chael eu hysbrydoli gan y neges garedigrwydd gan ei bod yn neges syml ond pwysig iawn y mae angen i bob un ohonom ddilyn. Da iawn i bob ysgol a gymerodd ran.”

Os hoffech gymryd rhan a lledaenu ymwybyddiaeth am yr ymgyrch, rhannwch eich syniadau ar dudalen Facebook Ceredigion  www.facebook.com/groups/1133691123675080 neu’n rhanbarthol ar www.facebook.com/ConnectToKindnessWestWales . I gael gwybod mwy ffoniwch 01545 574200 neu ebostiwch cyra.shimell@ceredigion.gov.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.