26.9 C
Llanelli
Saturday, July 11, 2026
Home Government Mae WULF yn gweithio: Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yw’r model cywir o...

Mae WULF yn gweithio: Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yw’r model cywir o hyd i sicrhau tegwch a chynnydd yn y gweithle, meddai TUC Cymru

0
423
Shavanah Taj profile Wales TUC
Shavanah Taj profile Wales TUC

Dengys canlyniadau arolwg dysgwyr 2020/21 fod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) wedi darparu hyd yn oed mwy o hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda dros 8000 o weithwyr yn cael mynediad at ddysgu yn y gweithle, sy’n uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol, a chynnydd o ran bodlonrwydd dysgwyr.

– Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod model dysgu’r undeb yn arbennig o dda am gefnogi gweithwyr i symud ymlaen o ran dysgu ac yn eu gwaith. Dywedodd 16 y cant o’r ymatebwyr fod y dysgu wedi arwain at newid rôl y swydd a dywedodd 52 y cant ei fod wedi arwain at godiad cyflog.

– Mae WULF yn darparu ar gyfer gweithwyr sy’n agored i niwed a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae 70 y cant o ddysgwyr yn WULF yn ferched a dywedodd 22 y cant o’r rhai a holwyd fod ganddynt namau corfforol, synhwyraidd, dysgu neu iechyd meddwl.

Dengys ymchwil gan Wavehill a gomisiynwyd gan TUC Cymru fod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn ystod 2020-21 wedi cefnogi mwy o gyfranogiad, gwella mynediad cyfartal a galluogi gweithwyr i symud ymlaen yn eu datblygiad personol eu hunain ac yn eu gyrfaoedd.

Darperir Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi hyfforddiant oedolion yn y gweithle a arweinir gan undebau. Mae holl weithwyr Cymru yn cael cyfle i gael mynediad i’r gronfa i fanteisio ar y cymorth, y cyngor a’r arweiniad a’r cynigion hyfforddi sydd ar gael drwy brosiectau WULF.

Yn yr un flwyddyn ag y dilëwyd y rhaglen gyfatebol yn Lloegr (ULF) gan Lywodraeth y DU, darparodd WULF hyfforddiant i nifer uwch nag erioed o weithwyr. Cafodd dros 8000 o bobl gymorth gan WULF ar 2020/21 a dangosodd arolwg dysgwyr a gynhaliwyd gan Wavehill fod 98 y cant o’r farn bod yr hyfforddiant yn ddefnyddiol. Dywedodd 91 y cant fod yr hyfforddiant yn berthnasol i’w swydd a dywedodd 69 y cant fod yr hyfforddiant wedi gwella eu perfformiad gwaith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid i degwch fod yn allweddol i adferiad economaidd. Mae’r adroddiad diweddar hwn yn dangos bod tegwch wrth wraidd model WULF. Un enghraifft o hyn yw’r dystiolaeth o effaith bargeinio ar y cyd.

Oherwydd y pandemig, cynhaliwyd tua 75 y cant o’r dysgu ar-lein, ond cafodd 41 y cant eu rhyddhau o’r gwaith gyda thâl i ddysgu. Hefyd cafodd dros un o bob pump o ddysgwyr WULF wybodaeth a chymorth ynghylch eu hawliau yn y gweithle tra oedden nhw’n cymryd rhan mewn dysgu WULF.

Mae WULF yn parhau i gyrraedd y rhannau na all rhaglenni dysgu a sgiliau eraill eu cyrraedd. Roedd tua hanner y gweithwyr a holwyd yn newydd i WULF a doedden nhw erioed wedi cymryd rhan yn y rhaglen o’r blaen. Dywedodd 87 y cant mai prif ganlyniad eu profiad oedd mwy o hyder. Mae ei ddull unigryw a’i fodel ariannu hyblyg wedi annog nifer dda o weithwyr anhraddodiadol a nodweddiadol. Er enghraifft, roedd 11 y cant o ddysgwyr yn llawrydd ac, o’r rheini, llwyddodd 65 y cant i gael hyd i waith newydd o ganlyniad i gymorth WULF.

Mae’r adroddiad yn dangos bod cynnydd mewn gwaith yn un o fanteision allweddol y model, o ran datblygiad personol a chyfleoedd gyrfa. Dywedodd tua thraean o’r dysgwyr a holwyd eu bod eisoes wedi symud ymlaen i ddysgu pellach ers iddynt ymgymryd â’u cwrs gwreiddiol, a dywedodd 47 y cant arall eu bod yn debygol o wneud hynny yn y dyfodol agos.

Fodd bynnag, rhaid i hyn arwain at welliannau o ran ansawdd a thâl swyddi. Mae’r arolwg yn dangos bod WULF yn cael effaith glir yma hefyd, gyda 16 y cant o ddysgwyr WULF yn dweud bod yr hyfforddiant wedi arwain at newid swydd ac roedd 52 y cant o’r grŵp hwnnw wedi cael codiad cyflog o ganlyniad.

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at lwyddiant parhaus Cronfa Ddysgu Undebau Cymru. Gyda chyfres newydd o brosiectau’n dechrau ym mis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi undebau llafur i sicrhau manteision i filoedd o weithwyr o flwyddyn i flwyddyn tan 2025.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj “Mae’n amlwg o’r adroddiad hwn fod WULF yn wirioneddol weithio ac yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Mae llawer o heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw er mwyn tyfu ein heconomi mewn ffordd nad yw’n gadael unrhyw weithiwr na chymuned ar ôl, ac sy’n creu swyddi o ansawdd da. Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod y model yr ydym wedi’i feithrin yn WULF dros y ddau ddegawd diwethaf mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi’r uchelgais hwn.

“Mae undebau llafur yn gweithio’n ddiflino i sicrhau ein bod yn newid yn briodol i economi werdd, ein bod yn cefnogi gweithwyr, ac yn gynhwysol yn y ffordd yr ydym yn datblygu eu sgiliau digidol i ymdopi â’r cynnydd cyflym mewn technolegau newydd a’n bod yn mynd ati’n gyson i geisio gwella lles gweithlu Cymru. Mae WULF yn sail i lawer o’r gwaith hwn.

“Rwy’n arbennig o falch o weld bod ‘natur unigryw’ dysgu dan arweiniad undebau Cymru yn amlwg ac yn drawsnewidiol. Cafodd nifer sylweddol o ddysgwyr WULF eu rhyddhau o’r gwaith gyda thâl i ymgymryd â dysgu a chafodd dros un o bob pump ohonynt gyngor ehangach gan eu hundeb ynghylch eu hawliau yn y gwaith wrth gymryd rhan yn y rhaglen. Dangoswyd bod bargeinio ar y cyd yn sail i ddysgu yn y gweithle i’w wneud yn decach ac yn fwy cynaliadwy, mae’n ‘ddull gweithio teg’ o ran sgiliau.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.