18.1 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle Brechu rhag COVID-19 – Cynnig ail frechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i’r...

Brechu rhag COVID-19 – Cynnig ail frechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i’r rhai mwyaf agored i niwed

0
342
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0031 scaled
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0031 scaled
Welsh Government News

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Fel y gwyddom, y cam gorau y gall pobl ei gymryd i ddiogelu eu hunain rhag COVID-19 yw cael y brechiad, ac mae’n dda gallu nodi bod 70% o’r rheini sy’n gymwys bellach wedi cael dos atgyfnerthu COVID-19 yng Nghymru. Mae pob brechiad a roddir yn helpu i ddiogelu Cymru. Heddiw, fel rhan o’i adolygiad diweddaraf o’r rhaglen frechu, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi datganiad sy’n argymell dos atgyfnerthu ychwanegol yn y gwanwyn i’n hunigolion mwyaf agored i niwed.

Fel strategaeth ragofalus, mae’r Cyd-bwyllgor wedi argymell ail ddos atgyfnerthu yn y gwanwyn ar gyfer:

  • oedolion 75 oed a throsodd
  • preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion imiwnoataliedig 12 oed a throsodd (fel y’u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd)

Wrth wneud yr argymhelliad hwn, ystyriwyd y data sydd ar gael yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r data hyn yn awgrymu bod imiwnedd pobl hŷn yn fwy tebygol o ostwng o ganlyniad i leihad yng ngallu’r system imiwnedd i ymateb yn effeithiol i heintiau neu frechlynnau, a’u bod yn llawer mwy tebygol o gael salwch difrifol os byddant yn cael eu heintio. Yn ymarferol, oherwydd eu bod wedi’u blaenoriaethu ar gyfer cael eu brechu ar ddechrau’r rhaglen frechu rhag COVID-19, pobl hŷn sydd hefyd bellaf yn awr o safbwynt amser o’r adeg pan gawsant eu dos diwethaf o’r brechlyn. Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac wedi gofyn i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer pryd y gallant ddechrau rhoi’r brechiadau. Mae’r byrddau iechyd eisoes yn bwriadu cynnig brechiad i bob plentyn pump i un ar ddeg oed o ganol mis Mawrth ymlaen. Byddant yn awr hefyd yn ystyried yr angen i flaenoriaethu brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r bygythiad i unigolion ac i gymunedau iechyd yn sgil COVID-19 yn ei anterth yn ystod tymor y gaeaf – dyna’r sefyllfa o hyd. At ddibenion cynllunio tymor hwy, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi dweud hefyd yr awgrymir cynnal rhaglen o frechiadau yn hydref 2022 i bobl sydd mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol os byddant yn dal COVID-19, fel y rheini sy’n hŷn a’r rheini sy’n perthyn i grwpiau risg clinigol. Bydd union fanylion rhaglen yr hydref ar gael yn ddiweddarach. Wrth i’r pandemig COVID-19 symud ymhellach tuag at fod yn endemig yn y DU, bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn parhau i adolygu’r rhaglen frechu ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu cyngor arbenigol.

Wrth inni barhau i gyflwyno ein rhaglen brechiadau atgyfnerthu lwyddiannus, nid yw’n rhy hwyr i unrhyw un sydd angen dos cyntaf, ail ddos neu ddos atgyfnerthu i gael eu brechu. Mae byrddau iechyd wrthi’n cysylltu ag unrhyw unigolion nad ydynt wedi gallu manteisio ar eu cynnig o frechiad atgyfnerthu. Fel arfer, rwy’n hynod ddiolchgar i’r Gwasanaeth Iechyd ac i bawb sy’n ymwneud â’r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.