11 C
Llanelli
Friday, May 8, 2026
Home Newyddion Lle Penodi Prif Weithredwr Cwmni Egino

Penodi Prif Weithredwr Cwmni Egino

0
388
received 171819513684231
received 171819513684231
Welsh Government News

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Rwy’n rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau ar sefydlu Cwmni Egino, y cwmni datblygu safle ar gyfer hen safle’r orsaf bŵer yn Nhrawsfynydd. Mae hyn yn dilyn fy natganiad blaenorol ar 26 Awst 2021.

Bydd yr Aelodau’n cofio mai diben Cwmni Egino yw cyflwyno prosiectau newydd posibl, gan gynnwys defnyddio adweithyddion niwclear bach i gynhyrchu trydan ac opsiynau ehangach i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i’r safle. Nodais o’r blaen fod Mike Tynan wedi’i benodi’n Brif Weithredwr dros dro Cwmni Egino. Cytunodd Mr Tynan i gontract 6 mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer y cwmni ac wedi cychwyn trafodaethau gyda’r tirfeddianwyr ar drefniadau les tir posibl ar gyfer y dyfodol.

Gallaf gyhoeddi yn awr, yn dilyn proses recriwtio gystadleuol, fod Alan Raymant wedi’i benodi’n Brif Weithredwr tymor hwy ar gyfer Cwmni Egino ac y bydd yn dechrau gweithio yn ei rôl newydd ar 1 Mawrth 2022. Mr Raymant oedd y Prif Swyddog Gweithredol ar brosiect Bradwell B yn Essex yn fwyaf diweddar a bu’n Brif Swyddog Gweithredu Horizon Nuclear Power rhwng 2009 a 2016. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad ac mae’n uchel ei barch o fewn y sector.

Mae Mr Raymant yn ymuno â Chwmni Egino ar yr un pryd ag y mae Bwrdd Cwmni Egino yn cael ei gryfhau drwy benodi dau gyfarwyddwr anweithredol sydd rhyngddynt â blynyddoedd lawer o brofiad o fewn y sector ynni niwclear a’r sector ynni ehangach. Mae Robert Davies, a oedd yn fwyaf diweddar yn Brif Swyddog Gweithredu CGN UK, a Kevin McCullough, sef cyn Gadeirydd Horizon Nuclear Power a Phanel Sector Ynni a’r Amgylchedd Llywodraeth Cymru, yn ymuno â Dr John Idris Jones fel aelodau newydd o’r Bwrdd ar unwaith. Rwyf yn disgwyl cryfhau ac amrywio aelodaeth y Bwrdd ymhellach gydag ail gylch o benodiadau yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here