15 C
Llanelli
Tuesday, September 15, 2026
Home Charity Caneuon & Gwenau yn ôl!

Caneuon & Gwenau yn ôl!

0
423
Goldies
Goldies

Gyda rheolau Covid wedi llacio ar draws Cymru, cyhoeddodd elusen boblogaidd Goldies Cymru ei bod yn dod â’i sesiynau hwyliog Caneuon&Gwenau yn ôl ar gyfer pobl hŷn ac ynysig. Cynhelid sesiynau Goldies Cymru yn ystod y dydd ledled De Cymru cyn y cyfnod Covid. Pan y’u gorfodwyd i ddod i ben, cyflwynodd yr elusen ei sesiynau canu soffa www.goldieslive.com i bobl ymuno â nhw o’u cartrefi.

Mae GoldiesLive wedi parhau am y 18 mis diwethaf gyda sesiynau ar ddyddiau Mawrth a Iau ynghyd â sesiwn fisol Gymraeg ychwanegol.

Dywedodd Grenville Jones, sefydlydd Goldies:

“Roeddem yn ymwybodol iawn fod llawer o’r bobl a fynychai ein sesiynau yn ystod y dydd cyn Covid yn byw bywydau unig. Os oeddent yn ynysig cyn hynny, yna fe wnaeth Covid yn bendant ychwanegu at yr unigrwydd hwnnw.

“Rydym yn gweithio gyda llawer o sefydliadau yng Nghymru i gyflwyno GoldiesLive ac rwyf wrth fy modd y gallwn ddod â rhai o’n sesiynau yn ystod y dydd yn ôl gyda’r bwriad o ychwanegu llawer mwy yn y misoedd i ddod. Fodd bynnag, byddwn yn parhau gyda sesiwn GoldiesLive tan ddiwedd eleni.”

Rachel Parry yw Arweinydd Rhaglen Goldies Cymru a gefnogir gan Sefydliad Moondance sydd â’u pencadlys yng Nghaerdydd. Dywedodd Rachel:

“Rydym yn falch iawn fod ein sesiynau cyntaf Goldies Cymru poblogaidd yn ailddechrau y mis hwn (Mawrth) ar ôl y seibiant a orfodwyd gan y pandemig.

“Os ydych yn mwynhau cyd-ganu gyda’r hen ffefrynnau o’r 50au ymlaen, ewch draw i’ch sesiwn agosaf, gwneud ffrindiau a MWYNHAU. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn gofyn i’r rhai sy’n mynychu fod cystal â rhoi cyfraniad o £3 at ein gwaith fel y gallwn ymestyn ein sesiynau gan gyrraedd pobl hŷn ynysig ar draws Cymru.”

Y sesiynau sy’n dechrau y mis hwn yw:

RHYMNI, GWENT yng nghanolfan chwaraeon a chymunedol Ael y Bryn, Aneurin Terrace, Rhymni, Gwent, NP22 5DR ar ddydd Mercher olaf y mis rhwng 12.00-1.00pm gyda Carol Pegler yn arwain y sesiwn.

TREDEGAR yn Llyfrgell Tredegar, Y Cylch, Tredegar, Gwent, NP22 3PS ar ail ddydd Mawrth y mis rhwng 12.00-1.00pm gyda Carol Pegler yn arwain.

PEN-Y-BONT AR OGWR Eglwys St Theodore, Stryd Fawr, Mynydd Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 6DR ar ail ddydd Mawrth y mis rhwng 11.00-12.00pm gyda Cheryl Davies yn arwain y sesiwn.

CAERDYDD yn yr EGLWYS NEWYDD yn Eglwys Bedyddwyr Ararat, Plas Treoda, Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 1PT ar ddydd Llun cyntaf y mis rhwng 2.00-3.00pm gyda Geoff Ashford yn arwain y sesiwn.

RHYDYPENNAU – CAERDYDD Eglwys yng Nghymru Park End, Heol Llandennis, Rhydypennau, Caerdydd, CF23 6EG – Mae hon yn SESIWN WYTHNOSOL, bob dydd Iau rhwng 10.30-11.30am gyda Sue Thomas yn arwain y sesiwn.

RHIWBEINA – CAERDYDD yn Llyfrgell Rhiwbeina, Pen-y-Dre, Rhiwbeina, Caerdydd, CF14 6EH ar drydydd dydd Mercher y mis rhwng 10.30-11.30am gyda Rachel Parry yn arwain y sesiwn.

SIR GAERFYRDDIN  CASTELL NEWYDD EMLYN Neuadd Gymunedol Eglwys y Drindod Sanctaidd, Lôn yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn, SA38 9AM ar ddydd Llun olaf y mis rhwng 11.00-12.00pm gyda Claire Thomas yn arwain y sesiwn.

CASTELL NEDD – PORT TALBOT sesiwn CEFNOGI DEMENTIA yng Nghapel Tabernacl,

14 Stryd Thomas, Pontardawe, Abertawe SA8 4HD ar ddydd Iau cyntaf y mis rhwng 11.00-12.00pm gyda Naomi Bishop yn arwain y sesiwn.

BRO MORGANNWG  DINAS POWYS,  dylid nodi fod hyn AR GAU I’R CYHOEDD ac fe’i cynhelir mewn partneriaeth gyda C3SC – Cyngor Trydydd Sector Caerdydd Canolfan Gymunedol Murchfield, Sunnycroft Lane, Dinas Powys, CF64 4QQ sesiynau yn ôl y cais gyda Rachel Parry.

LLANILLTUD FAWR yn Neuadd Lantonian, tu ôl i Glwb Rygbi Llanilltud Fawr, ger Heol Boverton, Llanilltud Fawr, CF61 1TF ar drydydd dydd Llun y mis rhwng 10.30am – 11.30am gyda Geoff Ashford.

CADWCH EICH LLYGAID AR AGOR – caiff mwy o sesiynau eu hychwanegu yn fuan.

Os hoffech wybod mwy ffoniwch Rachel Parry ar 07796 714816.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.