8.3 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Local News Ceredigion News Rhoi cydnabyddiaeth i aelod hirsefydlog o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor

Rhoi cydnabyddiaeth i aelod hirsefydlog o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor

0
461
Professor Ian Roffe Councillor Elizabeth Evans
Professor Ian Roffe Councillor Elizabeth Evans

Mewn cyfarfod rhithiol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022, rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r Athro Ian Roffe am ei wasanaeth fel aelod lleyg o’r Pwyllgor am bron i 10 mlynedd rhwng 2012 a 2022.

Cyflwynwyd plac iddo ar ddydd Gwener 11 Mawrth gan Gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Elizabeth Evans, a ddywedodd: “Mae Ian wedi bod yn aelod gwerthfawr iawn o’n pwyllgor ers dros ddeng mlynedd, ac rydym wedi elwa’n fawr o’i brofiad o waith archwilio a llywodraethu. Fel y Cadeirydd, rwyf wedi mwynhau perthynas waith agos gydag Ian ac rwyf bob amser wedi gwerthfawrogi ei gyngor cadarn. Rwy’n credu y gallaf siarad ar ran y pwyllgor cyfan wrth fynegi ein diolch am ei gyfraniad.”

Mae tri aelod annibynnol newydd, Alan Davies, Caroline Whitby a Liam Hull wedi’u penodi i’r Pwyllgor o 5 Mai 2022 ymlaen.

Eifion Evans yw Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi elwa o ddegawd o gyngor ac ystyriaethau a ddarparwyd gan yr Athro Roffe. Croesawn aelodau newydd y pwyllgor, a bydd eu mewnbwn i swyddogaeth y Pwyllgor yn cael ei werthfawrogi’n fawr.”

Mae Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio awdurdodau lleol yn bodoli i roi sicrwydd annibynnol i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ar ddigonolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol a chywirdeb y prosesau adrodd ariannol a llywodraethu blynyddol. Maent yn angenrheidiol i fodloni’r gofynion ehangach o ran rheolaeth fewnol a gofynion ariannol cadarn, sy’n ddisgwyliad teg gan y cyhoedd ar gyfer eu haelodau etholedig.

Y Cynghorydd Paul Hinge yw Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Ein diolch diffuant i’r Athro Roffe, sydd wedi rhoi o’i amser a defnyddio ei brofiad helaeth wrth gyfrannu at waith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Wrth iddo adael y pwyllgor, rydym yn croesawu’r aelodau lleyg newydd i’r pwyllgor pwysig hwn ac yn dymuno’n dda iddynt yn y gwaith y byddant yn ei wneud.”

Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor yn cynnwys 6 Chynghorydd Sir ac 1 Aelod Lleyg ond, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth ddiweddar, o 5 Mai 2022 ymlaen bydd yn cynnwys 6 Chynghorydd Sir a 3 Aelod Lleyg.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor, gan gynnwys y rhestr o gyfarfodydd, adroddiadau ac agendâu ar gael ar wefan y Cyngor:  https://cyngor.ceredigion.gov.uk/mgCommitteeDetails.aspx?ID=147&LLL=0.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.