17.8 C
Llanelli
Saturday, September 12, 2026
Home Welsh Government Ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg yng Nghymru

Ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg yng Nghymru

0
408
16.03.22 mh Flying Start Newport Visit 20 scaled
16.03.22 mh Flying Start Newport Visit 20 scaled

Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn cael ei ehangu i 2,500 mwy o blant o dan bedair oed fel rhan o’r cam cyntaf yn y gwaith o ehangu gofal plant o ansawdd uchel i bob plentyn dwy oed yng Nghymru.

Mae ehangu gofal plant i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn un o’r ymrwymiadau a wnaed yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Wrth ymweld heddiw (dydd Mercher 16 Mawrth) â Hwb Canolfan Gymunedol Ringland yng Nghasnewydd, sy’n darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Rwy wedi clywed gan rieni a gofalwyr am yr effaith gadarnhaol y mae Dechrau’n Deg wedi ei chael ar eu teuluoedd. Rydyn ni wedi ymrwymo i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ac mae’r rhaglen wych hon yn cynnig y ffordd orau o wneud hyn.

“Rydyn ni’n gwybod bod plant sy’n mynd i leoliadau’r blynyddoedd cynnar sydd o ansawdd uchel yn cael budd o dreulio amser mewn amgylchedd hapus a magwrus gyda’u cyfoedion, a’u bod wedi’u paratoi yn well ar gyfer dechrau yn yr ysgol gynradd o ganlyniad i hynny.”

“Mae hwn yn fenter uchelgeisiol, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau llawer o deuluoedd yng Nghymru ac yn ein helpu i gyrraedd ein nod o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.”

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Siân Gwenllian:

“Dyma’r cam cyntaf tuag at wireddu ein huchelgais o ddarparu addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant i bob plentyn yng Nghymru.

“Bydd gofal plant sydd ar gael i bawb yn gwneud gwahaniaeth, gan roi budd i blant a theuluoedd ym mhob cwr o’r wlad, a hwb hollbwysig i’n cymunedau. Dyma’r ffordd iawn o gefnogi ein plant.

“Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad ar y cyd i ehangu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at wireddu hyn dros y tair blynedd nesaf.”

O fis Medi ymlaen, caiff y rhaglen Dechrau’n Deg ei hehangu i gynnwys hyd at 2,500 mwy o blant o adeg geni hyd at bedair oed drwy estyn ardaloedd targed y rhaglen ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Bydd modd i bob plentyn o dan bedair oed sy’n bwy yn yr ardaloedd hyn fanteisio ar wasanaethau Dechrau’n Deg, gan gynnwys gofal plant i blant dwy a thair oed. Bydd timau Dechrau’n Deg yn rhoi gwybod am hyn i deuluoedd sy’n gymwys i fanteisio ar y rhaglen erbyn yr haf.

Ar ôl i’r cynllun Dechrau’n Deg gael ei roi ar waith yn llawn, bydd pob teulu yng Nghymru sydd â phlant rhwng dwy a thair oed yn gymwys i gael 12.5 awr o ofal plant o ansawdd uchel a ariennir am 39 wythnos y flwyddyn.

Byddwn yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ehangu gofal plant ymhellach drwy Dechrau’n Deg yn ystod yr hydref.

Er mwyn cyrraedd y targed hwn, byddwn yn helpu darparwyr presennol Dechrau’n Deg i estyn eu darpariaeth – yn ogystal â pharhau i annog darparwyr newydd i gynnig y rhaglen, gan gynnwys y darparwyr hynny sy’n arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Ar hyn o bryd, mae tua 36,000 o blant o dan bedair oed sy’n byw mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn manteisio ar y rhaglen, ac mae tua 9,000 o blant dwy oed yn cael gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel a ariennir.

Mae cyllid ychwanegol o £20m wedi cael ei ddyrannu dros y tair blynedd nesaf i gefnogi’r gwaith o ehangu’r ddarpariaeth.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.