8.7 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Local News Ceredigion News Pobl ifanc Ceredigion yn cymryd rhan yn ymgynghoriad ieuenctid mwyaf Ewrop!

Pobl ifanc Ceredigion yn cymryd rhan yn ymgynghoriad ieuenctid mwyaf Ewrop!

0
389
CCC Logo
CCC Logo

Pleidleisiodd 2,160 o bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed (37% o’r boblogaeth) ar draws Ceredigion yn y balot, Gwneud Eich Marc, eleni, sy’n golygu mai Ceredigion yw’r unig Awdurdod yng Nghymru i gyrraedd yr 20 ardal uchaf yn y DU (yn seiliedig ar ganran y nifer a bleidleisiodd).

Ym mis Chwefror 2022, cymerodd Ceredigion ran yn y balot Gwneud Eich Marc. Mae Gwnewch Eich Marc yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11-18 oed ym Mhrydain gael dweud eu dweud ar y materion mwyaf sy’n wynebu pobl ifanc. Mae’r bleidlais flynyddol, sydd wedi bod yn rhedeg ers dros 10 mlynedd, yn canolbwyntio ar faterion megis iechyd ac addysg.

Iechyd a Lles oedd y pwnc a bleidleisiwyd arno fwyaf gan bobl ifanc Ceredigion gyda 483 o bleidleisiau, gyda Swyddi, Arian, Cartrefi a Chyfleoedd yn dilyn yn agos gyda 451 o bleidleisiau. Derbyniodd yr Amgylchedd 405 o bleidleisiau ac Addysg a Dysgu 371 o bleidleisiau. Materion eraill y pleidleisiwyd arnynt hefyd yw Tlodi, Adferiad Covid-19 ac Ein Hawliau a Democratiaeth.

Bydd digwyddiad blynyddol Cyngor Ieuenctid Ceredigion, i’w gynnal ddiweddarach eleni, yn canolbwyntio ar nifer o’r pynciau pwysig hyn, lle bydd pobl ifanc yn codi cwestiynau gyda phanel o siaradwyr gwadd.

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae’n hynod o bwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i rannu eu barn, yn benodol ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r Ymgyrch Gwneud eich Marc yn gyfle gwerthfawr i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ar draws Ceredigion gael dylanwad ar y materion sy’n cael eu trafod fel rhan o’r rhaglen UKYP, ac rydym yn falch bod cynifer o bobl ifanc wedi gallu cymryd rhan eleni. Hoffem ddiolch i’n tim o Weithwyr Ieuenctid, Ysgolion Uwchradd a Cholegau Addysg Bellach ar draws y Sir am ein cefnogi i allu cynnal y balot eto eleni.”

Am fwy o wybodaeth neu i ddarllen adroddiad Gwneud eich Mark 2022 gan y British Youth Council eleni, ewch chi: https://2u6szgq3e9x2hmfuy16guf8q-wpengine.netdna-ssl.com/wp-content/uploads/2022/03/UK-Youth-Parliament-Make-Your-Mark-Results-Report-2022.pdf


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.