9.7 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Ceredigion News Cyngor yn darparu nwyddau mislif i gymunedau lleol

Cyngor yn darparu nwyddau mislif i gymunedau lleol

0
414
Nwyddau Mislif Period Products
Nwyddau Mislif Period Products

Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth â sefydliadau a grwpiau cymunedol lleol, a thrwy arian o Gynllun Urddas Cyfnod Mislif Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bobl fynediad at nwyddau mislif yn y gymuned.

Mae nifer o sefydliadau a grwpiau lleol wedi derbyn cyflenwad o nwyddau mislif sydd ar gael i’w dosbarthu i unigolion sy’n wynebu caledi o fewn ein cymunedau.

Nod y Cyngor yw sicrhau bod tamponau, tyweli mislif, neu ddewisiadau amgen a chynaliadwy ar gael i bobl o gartrefi incwm isel yng Ngheredigion nad ydynt yn gallu eu fforddio.

Mae gan sefydliadau a grwpiau cymorth lleol gyfoeth o wybodaeth am eu hardaloedd lleol, a byddant yn gallu cefnogi’r rhai sydd mewn angen drwy sicrhau eu bod yn derbyn y cynhyrchion hyn yn ystod y cyfnod arbennig o heriol hwn.

I gael gwybod pa grwpiau neu sefydliadau sydd â chyflenwad yn eich ardal leol chi, cysylltwch â CLIC ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk. Gallwch hefyd dderbyn cynnyrch am ddim o Ganolfannau Hamdden Plascrug, Llambed, Aberteifi, Aberaeron, Tregaron a Llandysul.

I gael gwybod mwy am gymorth a grantiau eraill sydd ar gael i’r rheini sy’n wynebu caledi, ewch i’r adran ynghylch budd-daliadau ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/budd-daliadau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.