Mae noson elusennol er cof am y diffoddwr tân adnabyddus o Aberystwyth, Robbie Jones, yn cael ei chynnal y penwythnos yma i godi arian at Apêl Cemo Bronglais.
Bydd act deyrnged i Freddie Mercury, Forever Freddie, ynghyd â raffl ac ocsiwn yng Nghlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth ar ddydd Sul, 17 Ebrill.
Mae tocynnau a archebwyd ymlaen llaw eisoes wedi gwerthu allan, ond gallwch barhau i gael mynediad ar y noson o 8pm, am £10.
Mae’r noson yn cael ei threfnu gan nith Robbie, Kirsty Jones, gyda chymorth ei mam Glenda Brown a’i chwaer Stacey Mleczek, sy’n aelod o staff yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.
Dywedodd Kirsty: “Derbyniodd Ewythr Robbie ofal gwych yn yr uned ond yn anffodus bu farw ym mis Tachwedd 2020, yn ddim ond 56 oed. Mae’n gadael merch 15 oed, Elan, partner Sandy, a llawer o deulu a ffrindiau oedd yn ei garu’n fawr.”
Roedd Robbie yn gefnogwr brwd ac yn gyn-chwaraewr i Glwb Pêl-droed Aberystwyth. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa yng Ngorsaf Dân Aberystwyth lle, yn y blynyddoedd diwethaf, daeth yn Swyddog Cyswllt Gorsaf i Ardal Reoli Ceredigion.
“Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth er cof amdano i’w wneud yn falch ac felly ni fyddai’n cael ei anghofio. Roedd codi arian ar gyfer yr Apêl yn ymddangos yn ffordd berffaith oherwydd bydd uned ddydd bwrpasol newydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r cymunedau lleol,” ychwanegodd Kirsty.
“Mae cael gwasanaethau canser yn agos at adref mor bwysig. Roedd Ewythr Robbie bob amser yn dweud pa mor dda oedd y tîm ar yr uned a pha mor gymwynasgar oedd hi.”
Bydd bwcedi casglu yn y digwyddiad hefyd i unrhyw un sydd am gyfrannu at Apêl Cemo Bronglais, sydd â’r nod o godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer adeiladu uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, i wella profiad y claf yn fawr.
I gael rhagor o fanylion am y noson elusennol, e-bostiwch Kirsty ar kirstydavies08@hotmail.com
I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















