17.7 C
Llanelli
Thursday, September 10, 2026
Home Animals CROESO YN ÔL I HYFFORDDIANT DPP MOCH AR GYFER MILFEDDYGON CYMRU

CROESO YN ÔL I HYFFORDDIANT DPP MOCH AR GYFER MILFEDDYGON CYMRU

0
452
IMG 20190606 125738 1 scaled
IMG 20190606 125738 1 scaled

Unwaith eto, mae Menter Moch Cymru a Chanolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC), mewn cydweithrediad ag Iechyd Da a Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid, yn cyflwyno’r hyfforddiant DPP Moch poblogaidd i filfeddygon Cymru.

Bydd y rhaglen ddwys 6 diwrnod, a gynhelir rhwng mis Mai a mis Medi, yn cael ei chyflwyno gan y milfeddyg moch arbenigol Dr Annie Davis o Grŵp Milfeddygol George ynghyd â llu o siaradwyr gwadd arbenigol.

Bydd yr hyfforddiant yn cychwyn ar y 5ed o Fai ac mae’n ffordd arbennig i filfeddygon yng Nghymru ddatblygu eu sgiliau ymarferol gyda moch mewn sesiynau ymarferol dan oruchwyliaeth tiwtoriaid arbenigol mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Disgrifiodd Hugh Williams, o Filfeddygon Williams yn Nhywyn yr hyfforddiant fel cyfle gwych.

“Roedd y cwrs cyfan yn wych gyda chymysgedd o ddiwrnodau ymarferol a darlithoedd. Roedd y dyddiau ymarferol yn arbennig, roeddem fyny yng Nglynllifon ar fferm foch dan do ddwys, yn profi gwaed ac yn ymarfer y technegau hynny ac yna ar fferm yn Y Fenni uned foch awyr agored a rhoddodd y ddau brofiad gwych i ni ac roedd yn gyfle i’r holl aelodau oedd ar y cwrs i ddysgu sgiliau newydd a gwella ein gwybodaeth am wyddor filfeddygol moch.

“Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn llwyr, gan ei fod wedi gwella fy hyder wrth weithio gyda moch a hefyd wedi ehangu fy ngwybodaeth am y byd milfeddygol moch,” ychwanegodd.

Bydd y sesiwn gyntaf yn un rhithiol a bydd yn cynnwys edrych am fygythiadau o afiechydon all effeithio ar foch, TB mewn moch, maeth, cynhyrchu moch, hwsmonaeth a dangosyddion perfformiad tra bydd yr ail ddiwrnod hyfforddi yn cael ei gynnal yng Nglynllifon, Caernarfon ar yr 17eg o Fai ac yn edrych ar feichiogrwydd, porchella, proffilio iechyd clinigol a chynllunio ar gyfer iechyd cadarnhaol.

Bydd trydydd diwrnod yr hyfforddiant yng Nglynllifon ar y 18fed o Fai yn cynnwys taith o amgylch eu huned foch dan do, edrych ar samplu gwaed, sut i lunio cynllun iechyd a defnydd cyfrifol o wrthfiotigau, a chynhelir y pedwerydd diwrnod ar y 13eg o Orffennaf yn Forest Coalpit, Y Fenni a bydd yn cynnwys taith fferm o amgylch eu huned awyr agored yn ogystal â dulliau asesu ar gyfer archwilio moch a hwsmonaeth a rheolaeth.

Cynhelir y ddau ddiwrnod olaf ar y 7fed a’r 8fed o Fedi yn y WVSC yn Aberystwyth a bydd yn cynnwys edrych ar bost mortem mochyn, y gwaith ymarferol a’r theori.

Dywedodd Beverley Hopkins o WVSC: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y cwrs DPP manwl hwn ar foch yn dychwelyd,  o dan arweiniad Annie Davis o Grŵp Milfeddygon George. Bydd yn gyfle gwych i filfeddygon yng Nghymru a bydd yn braf cael cyfarfod wyneb yn wyneb unwaith eto ar gyfer gwaith theori a llawer o hyfforddiant ymarferol hefyd.”

Ychwanegodd Melanie Cargill Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Rydym wrth ein boddau yn gweithio unwaith eto gyda WVSC, Iechyd Da a Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid i gyflwyno’r cwrs DPP hwn sy’n canolbwyntio ar foch ar gyfer milfeddygon Cymru. Roedd y cwrs yn hynod boblogaidd pan wnaethom ei gynnal yn 2019. Roedd y milfeddygon a oedd yn bresennol yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i gael profiad ymarferol o drin moch a chael gwybodaeth fanwl i’w cynorthwyo ymhellach i ddarparu gwasanaethau o’r natur hon i’w cleientiaid.”

Am fwy o fanylion ac i archebu lle cysylltwch â WVSC: enquiries@wvsc.wales


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.