9.7 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Ceredigion News Gwasanaethau gwastraff cartref swmpus a gwastraff gardd i ailddechrau

Gwasanaethau gwastraff cartref swmpus a gwastraff gardd i ailddechrau

0
417
CCC Logo
CCC Logo

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ailddechrau ei wasanaethau casglu gwastraff cartref swmpus a gwastraff gardd yn fuan.

Ataliwyd y gwasanaethau ar ddechrau pandemig COVID-19 fel y gallai’r Cyngor ganolbwyntio ei adnoddau ar ddarparu ei wasanaethau casglu gwastraff craidd yn ystod y cyfnod hwn. Esboniodd llefarydd ar ran y Cyngor, “Drwy gydol COVID-19, ein blaenoriaeth oedd iechyd a diogelwch ein staff a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ac mae hynny’n parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.”

“Cafodd y cerbydau a’r staff a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaethau gwastraff cartref swmpus a gwastraff gardd eu hadleoli fel y gallai’r gwasanaeth craidd weithredu’n ddiogel a chydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol.

“Gan fod y cyfyngiadau wedi llacio rydym wedi gallu adolygu ein gweithgareddau a gallwn nawr geisio ailgyflwyno’r gwasanaethau hyn yn ddiogel,”

Bydd y gwasanaethau’n ailddechrau’n raddol, a bydd modd trefnu casgliad gwastraff cartref swmpus o 19 Ebrill ymlaen a threfnu casgliad gwastraff gardd o 25 Ebrill ymlaen. Gofynnir i breswylwyr drefnu gwasanaeth dim ond os nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o ddelio â’r gwastraff, er mwyn sicrhau bod ailgyflwyno’r gwasanaethau hyn yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y gwasanaeth craidd.

I ddechrau, bydd archebion ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd ar gael i’r rheini sydd eisoes â bagiau yn barod i’w casglu.

Bydd bagiau gwastraff gardd ar gael o lyfrgelloedd y Cyngor yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, a Cheinewydd o 23 Mai ymlaen.

Hoffem ddiolch i’n preswylwyr am eu hamynedd yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol iawn, ac edrychwn ymlaen at allu ailgyflwyno’r gwasanaethau gwerthfawr hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar gael ar y tudalennau, ‘Gwastraff  o’r Ardd’ a ‘ Eitemau Swmpus i’w Gwaredu’ ar wefan y Cyngor, www.ceredigion.gov.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.