9.7 C
Llanelli
Thursday, November 5, 2026
Home swansea university Castell Howell ac Arena Abertawe i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity...

Castell Howell ac Arena Abertawe i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru

0
447
AW140422SUwrugby030
AW140422SUwrugby030

Castell Howell, y cyfanwerthwr bwyd o Gymru, ac Arena Abertawe, y lleoliad digwyddiadau newydd, fydd prif noddwyr Prifysgol Abertawe wrth i Varsity Cymru ddychwelyd eleni.

Bydd enwau’r ddau noddwr ar grysau rygbi’r dynion a’r menywod ar gyfer eu gemau yn erbyn Prifysgol Caerdydd yr wythnos hon.

Bydd cynrychiolwyr y noddwyr hefyd yn cyflwyno crysau Varsity Cymru i garfannau’r dynion a’r menywod cyn y digwyddiad uchel ei fri, yn ogystal â hysbysebu ar sgriniau digidol ar y ddau gampws.

Mae Varsity Cymru’n ŵyl chwaraeon wythnos o hyd gyda myfyrwyr yn cystadlu mewn mwy na 30 o gampau, gan gynnwys nofio, golff, pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a chleddyfaeth ac eleni mae Prifysgol Abertawe’n falch o gynnal y gweithgareddau.

Swansea University Varsity 2022 Men’s Rugby Squad Copyright © 2022 by Adrian White Photography, all rights reserved. For permission to publish – contact me via www.adrianwhitephotography.co.uk Please respect copyright laws.

Cynhelir y rhan fwyaf o’r cystadlaethau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ddydd Mercher, 27 Ebrill, gan orffen â gêm rygbi’r dynion yn Stadiwm Swansea.com yn hwyrach y noson honno.

Bydd gemau’r dynion a’r menywod ar gael yn fyw ar-lein drwy S4C Clic yn ogystal ag ar dudalen Facebook Rygbi Pawb a sianel YouTube S4C. Cânt eu ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook y Brifysgol hefyd.

Varsity Cymru yw’r digwyddiad chwaraeon mwyaf ond un i brifysgolion yn y DU, y tu ôl i’r cystadlu rhwng Rhydychen a Chaergrawnt, ac mae’n denu brwdfrydedd miloedd o fyfyrwyr o’r ddwy brifysgol.

Ar hyn o bryd, Caerdydd yw deiliad Tarian a Chwpan Varsity Cymru, yn dilyn buddugoliaethau’r brifysgol honno yn 2019, felly bydd Abertawe’n awyddus i ymgymryd â’r her eleni ar dir cartref.

Meddai Rachel Thomas, Pennaeth Datblygu ac Ymgysylltu Prifysgol Abertawe: “Mae llawer o bobl bob amser wedi edrych ymlaen yn eiddgar at ddigwyddiad Varsity Cymru yng nghalendr y Brifysgol, ond ar ôl bwlch o ddwy flynedd, bydd yr un hwn yn arbennig iawn i bawb sy’n cymryd rhan ac yn cefnogi eu timau.

“Rydyn ni’n falch o gael cefnogaeth Castell Howell ac Arena Abertawe i’n helpu i

groesawu Varsity Cymru yn ôl mewn modd trawiadol a chreu achlysur gwirioneddol gofiadwy i bawb sy’n cymryd rhan.”

Bwydydd Castell Howell yw cyfanwerthwr bwyd annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, gan wasanaethu Cymru, siroedd y gororau a de-orllewin Lloegr. Meddai Brian Jones, ei sylfaenydd: “Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, gan helpu i hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc gael profiadau i ddatblygu llawer o’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw i lwyddo.

“Mae Varsity Cymru’n ddigwyddiad mawr yng nghalendr myfyrwyr ledled de Cymru, ac rydyn ni’n dymuno pob lwc i’r holl athletwyr, cystadleuwyr a chefnogwyr ar y diwrnod pwysig hwn.”

Arena Abertawe yw lleoliad adloniant a digwyddiadau amlbwrpas diweddaraf de Cymru a chynhaliwyd seremonïau graddio’r Brifysgol yno’n gynharach y mis hwn.

Meddai Lisa Mart, cyfarwyddwr y lleoliad: “Fel un o brif noddwyr gemau rygbi Varsity Cymru 2022, rydyn ni wrth ein boddau i gael ein cysylltu â Phrifysgol Abertawe a’i gwerthoedd.

 “Mae tîm Arena Abertawe’n ymrwymedig i gysylltu â phobl ein dinas ar yr adeg hon sy’n llawn newid gwych, a thrwy noddi’r diwrnod hynod gystadleuol a difyr hwn, rydyn ni’n gobeithio ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli pawb drwy’r cyfleoedd a’r profiadau y gall lleoliad adloniant byw a adeiladwyd at y diben eu cynnig.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.