7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Ceredigion News Hwb i ganfod gwaith drwy Cymunedau am Waith a Mwy

Hwb i ganfod gwaith drwy Cymunedau am Waith a Mwy

0
539
CCC Logo
CCC Logo

Mae’r Cynllun Kickstart gan Cymunedau am Waith a Mwy wedi helpu dyn ifanc lleol i sicrhau ei swydd lawn amser gyntaf.

Roedd James Sweet, 20 oed o Lanbedr Pont Steffan, yn ddi-waith ac wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol ers mis Mawrth 2021. Roedd effeithiau’r pandemig yn golygu bod James yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith ers y cyfnod clo.

Llwyddodd James i gael cymorth gan Cymunedau am Waith a Mwy i chwilio am swyddi a datblygu ei sgiliau CV cyn sicrhau swydd drwy’r cynllun Kickstart fel Cynorthwyydd Gweithredol gyda chwmni ar-lein.

Mae Misha Homayoun-Fekri yn fentor gyda Chymunedau am Waith a Mwy. Dywedodd: “Cafodd James gymorth yn ystod cyfnod anodd (wrth ddod allan o’r cyfnodau clo) gyda ni yn ei gefnogi drwy anfon swyddi addas ato a chysylltu ag ef yn rheolaidd wrth iddo geisio chwilio am swyddi ei hun. Byddai cael swydd yn ei alluogi i ddysgu sgiliau newydd ac i symud ymlaen i ble mae’n dymuno bod yn ei yrfa yn y pen draw. Aeth James i ychydig o ffeiriau swyddi. Roeddent wedi’u hanelu at y swyddi Kickstart. Yma roedd James yn gallu cwrdd â chyflogwyr yn bersonol a rhoi ei CV iddyn nhw.”

Ychwanegodd James Sweet: “Mae derbyn swydd drwy Kickstart wedi rhoi hwb i mi a’r ysfa i weithio. Mae hyn yn ei dro yn fy nghadw i’n hapus. Mae’n sicr yn werth ymwneud â Chymunedau am Waith a Mwy er mwyn cael cymorth i ennill gwaith. Mae wedi cyfoethogi fy mywyd a’m gyrfa.”

Mae’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, ar ariennir gan Llywodraeth Cymru, yn cefnogi oedolion a phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed drwy roi opsiynau iddynt gael mynediad at ystod o gymorth personol wedi’i deilwra a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i ddiwallu eu hanghenion a’u dyheadau.

Mae swyddi Kickstart yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc gael profiad gwaith gwerthfawr.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.