13.5 C
Llanelli
Monday, October 19, 2026
Home Newyddion Lle Gweithredu diwydiannol yn effeithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru 

Gweithredu diwydiannol yn effeithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru 

0
474
TfW logo
TfW logo

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd streic yn digwydd ddydd Mawrth 21 Mehefin, dydd Iau 23 Mehefin a dydd Sadwrn 25 Mehefin, a fydd yn amharu’n sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled y DU gyfan.

Nid oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a’r RMT.  Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng RMT a Network Rail yn golygu na fyddwn yn gallu gweithredu ein gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.

Ein gwasanaethau

Bydd mwyafrif y gwasanaethau rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal, ac eithrio gwasanaethau ar Linellau Craidd y Cymoedd (CVL) i’r gogledd o Radur yn Ne Cymru.

Bydd gwasanaethau i/o:

  • Radur i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful (wedi’i leihau i wasanaeth bob awr i bob cyfeiriad), gyda chysylltiad gwasanaeth bws i Orsaf Ganolog Caerdydd. Disgwyliwn i’r gwasanaethau hyn fod yn brysur iawn.

Ni fydd unrhyw wasanaethau ar y llwybrau CVL i Rymni, Coryton, Bae Caerdydd a Llinell y Ddinas gan mai Network Rail sy’n gweithredu’r signalau hynny.

Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol.  Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth cyn gynted â phosibl.

Tocynnau cyfredol

Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau teithio cyfredol o ddydd Llun 20 Mehefin i ddydd Sul 26 Mehefin ddefnyddio’r tocynnau hynny unrhyw bryd rhwng nawr a’r 20fed.  Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn drwy gysylltu â customer.relations@tfwrail.wales.

Yn y cyfamser, rydym yn atal gwerthu tocynnau Ymlaen Llaw (Advance) am y tri dyddiad streic cyntaf er mwyn lleihau nifer y bobl yr amharir arnynt.  Dylai cwsmeriaid barhau i wirio ein gwefan a gwefannau gweithredwyr eraill am ddiweddariadau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.