15.1 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle Annog gofalwyr di-dâl i wneud cais am eu taliad o £500

Annog gofalwyr di-dâl i wneud cais am eu taliad o £500

0
1083
Carer and elderly lady
Carer and elderly lady

Mae gofalwyr di-dâl yn y De yn cael eu hannog i wneud cais am daliad o £500 i helpu gyda’r costau cynyddol sy’n gysylltiedig â gofalu yn ystod yr argyfwng costau byw.

Hyd yma mae 78% o ofalwyr cymwys yn y De wedi gwneud cais, gyda mwy na 16,400 o hawliadau wedi’u talu i ofalwyr di-dâl yn yr ardal. Mae Gweinidogion yn galw ar y gofalwyr di-dâl sydd heb ddod ymlaen, i wneud hynny.  

Rhaid i ofalwyr di-dâl a oedd yn cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth eleni gofrestru gyda’u hawdurdod lleol erbyn 15 Gorffennaf 2022 i gael y taliad.

Bydd y taliad, sy’n cydnabod y caledi ariannol ac emosiynol y mae llawer yn ei wynebu, o fudd i filoedd o’r gofalwyr di-dâl mwyaf agored i niwed yng Nghymru, sy’n aml yn gofalu am hiraf ac sydd ar yr incwm isaf.

Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n gofalu am bartner, perthynas neu ffrind sydd â salwch neu anabledd. Telir Lwfans Gofalwr i bobl sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos, sy’n gofalu am rywun sy’n cael budd-daliadau penodol, ac sy’n ennill dim mwy na £128 yr wythnos.  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:

“Rydym yn eithriadol o falch o’n gofalwyr di-dâl yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn cael trafferth gwneud amser iddyn nhw eu hunain oherwydd eu rôl ofalu.

“Rydym yn deall na fydd pob gofalwr di-dâl yn gymwys i gael y taliad hwn gan nad yw pob un yn cael Lwfans Gofalwr, a byddwn yn parhau i gefnogi gofalwyr o bob oed sut bynnag y gallwn. Yn ystod Wythnos Gofalwyr, cyhoeddais barhad ein Cronfa Gymorth lwyddiannus i Ofalwyr dros y tair blynedd nesaf.

“Rwy’n gobeithio y bydd y taliad hwn o £500 o gymorth i liniaru’r pwysau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl, yn ogystal â chydnabod gwerth eu rôl ofalu i system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Rwy’n annog unrhyw un sydd heb wneud cais am y taliad i ddod ymlaen a hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt.“


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.