18.2 C
Llanelli
Thursday, September 3, 2026
Home Newyddion Lle Gwahodd codwyr arian i gadw’n heini yn Sialens Newydd Parc Cenedlaethol Arfordir...

Gwahodd codwyr arian i gadw’n heini yn Sialens Newydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

0
625
SMALLHaroldston Chins 02
SMALLHaroldston Chins 02

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog aelodau’r cyhoedd i archwilio’r dirwedd o’r radd flaenaf o’u cwmpas fel rhan o ddigwyddiad codi arian i ddathlu 70 mlynedd ers dynodiad Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae’r Sialens Pen-blwydd 70 yn gwahodd cyfranogwyr i naill ai cerdded 70 milltir neu nofio yn y môr 70 gwaith dros gyfnod o saith mis. Mae modd cerdded yn annibynnol rhywle yn y Parc, neu fel rhan o raglen teithiau tywys 70@70 yr Awdurdod, a fydd yn rhedeg tan Ddydd Gwener 23 Medi 2022.

Mae llwybrau’r teithiau cerdded 70@70 yn amrywio o ddwy filltir i saith milltir o hyd ac yn cynnwys golygfeydd adnabyddus o Lwybr yr Arfordir yn ogystal ag ardaloedd mewndirol, fel Cwm Gwaun a Bryniau’r Preseli. Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael ar y teithiau cerdded hyn ac mae archebu yn hanfodol yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau/.

Dywedodd Jessica Morgan, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’r Sialens yn cynnig cyfle unigryw i gadw’n heini ac ymweld â rhai o leoliadau mwyaf eiconig y Parc, yn ogystal â darganfod ei drysorau cudd – tra’n codi arian er mwyn helpu ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  

“Os ydych chi’n athletwr profiadol, neu’n rhywun sydd eisiau gwella ei ffitrwydd personol neu’n ddigon mentrus i nofio yn yr awyr agored, rydych yn annhebygol o ddod o hyd i lawer o leoliadau ymarfer corff sydd â chystal golygfeydd a bywyd gwyllt ag Arfordir Penfro.

“Os ydych chi eisiau cefnogi’r ymgyrch hon a dod yn Rym er Natur, anfonwch e-bost i support@pembrokeshirecoasttrust.wales i gael gwybod y camau nesaf. Gofynnir i gyfranogwyr greu tudalen Just Giving ac ymuno â’n grŵp Facebook o godwyr arian ar gyfer anogaeth. Ar ôl gwneud hyn, gellir dechrau’r sialens codi arian.”

Mae gwybodaeth am dros 200 o lwybrau cerdded ledled y Parc Cenedlaethol ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/cerdded.

I gael gwybod mwy am yr Ymddiriedolaeth, sut mae cyfrannu, neu i gael eich ychwanegu at restr bostio cefnogwyr i gael gwybod am ddigwyddiadau yn y dyfodol, ewch i’r wefan https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.