18.4 C
Llanelli
Tuesday, August 25, 2026
Home Local News Ceredigion News Paratoadau’n mynd rhagddynt i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol

Paratoadau’n mynd rhagddynt i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol

0
2499
CCC Logo
CCC Logo

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru a fydd yn cael ei chynnal yng Ngheredigion rhwng 30 Gorffennaf a 06 Awst 2022.

Cynhelir y digwyddiad yn Nhregaron ac mae Ceredigion gyfan yn paratoi i groesawu’r Eisteddfod hirddisgwyliedig i’n sir.

Bydd yr Eisteddfod yn arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod cyfnod prysur yr haf, ac wrth i ni baratoi i roi croeso cynnes i bawb, rydym am wneud y cyhoedd yn ymwybodol o amhariadau posibl ar wasanaethau.

Disgwylir cynnydd sylweddol yn nifer y traffig ar y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal ag yn ystod y cyfnod o osod a chlirio’r safle.

Gwasanaethau Bws Lleol

Er mai’r bwriad yw gweithredu gwasanaethau bws lleol fel y trefnwyd, mae’n debygol iawn y bydd rhywfaint o darfu ar y rhain, a fydd yn cynnwys amseroedd teithio estynedig. Bydd gweithredwyr bysiau Ceredigion yn gwneud pob ymdrech i leihau’r effaith ar y cyhoedd sy’n teithio.

Yn ogystal â’r gwasanaethau bws arferol, bydd gwasanaethau masnachol ychwanegol ar gael i’r Maes gan gwmnïau bysiau o Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron. I weld yr amserlenni ac archebu tocynnau, ewch i wefan yr Eisteddfod: https://eisteddfod.cymru/2022-bysiau

Casglu Gwastraff

Bwriedir darparu gwasanaethau casglu gwastraff fel y trefnwyd ar draws y rhan fwyaf o Geredigion yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 02 Awst 2022. Fodd bynnag, oherwydd y cynnydd yn nifer y traffig yn benodol yn Nhregaron, byddwn yn gwneud rhai newidiadau bach i drefniadau casglu lleol. Cysylltir yn uniongyrchol â’r rhai yr effeithir arnynt. Os na chysylltir â chi, cyflwynwch eich gwastraff, fel yr arfer, erbyn 08:00 ar y diwrnod casglu a drefnwyd.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys adnodd chwilio codau post a manylion unrhyw amhariadau ar wasanaethau, ar gael ar Biniau ac Ailgylchu – Cyngor Sir Ceredigion neu drwy gysylltu â Clic ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

Traffig a threfniadau parcio lleol

Bydd mwy o swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion yn bresennol yn Nhregaron yn ystod cyfnod yr Eisteddfod. Byddant yn rhoi cyngor a gwybodaeth wrth ymgymryd â gweithgareddau monitro.

Cynghorir gyrwyr i wirio’r cyfyngiadau parcio sydd ar waith cyn gadael eu cerbyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y bydd newidiadau dros dro i’r cyfyngiadau parcio, y systemau unffordd a’r terfynau cyflymder sydd ar waith yn ystod y cyfnod hwn. A fyddech cystal â gyrru a pharcio’n ystyriol, yn gyfrifol ac yn gyfreithlon. 

Bydd arwyddion cyfeirio yn cael eu gosod mewn lleoliadau allweddol o fewn a thu allan i ffin y sir. Cynghorir modurwyr i ddilyn yr arwyddion a pheidio â dibynnu ar eu Sat Navs i gymryd unrhyw lwybrau byr neu lwybrau amgen. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyrraedd y Maes ar gael ar wefan yr Eisteddfod: https://eisteddfod.cymru/2022-cyrraedd-y-maes

‘Gofal ychwanegol’

Y Cynghorydd Keith Henson yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Geredigion, lle bydd wedi’i lleoli yn Nhregaron. Dyma gyfle gwych i hyrwyddo a dathlu’r sir. Er mwyn sicrhau digwyddiad llwyddiannus, hoffem alw ar bawb i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio yn ystod y cyfnod prysur hwn. Mae diogelwch y cyhoedd o’r pwys mwyaf a hoffem ddiolch i bawb am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod prysur ond cyffrous hwn i Geredigion. Cadwch olwg hefyd ar y baneri, y bynting a’r arwyddion hardd hefyd a wnaed gan gymunedau Ceredigion i groesawu’r Eisteddfod. Mae’r sir yn llawn lliw a chyffro.”

Yn rhan o Caru Ceredigion hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth. Bydd hyn yn sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod ac yn sicrhau bod Ceredigion yn parhau i fod yn lle gwirioneddol wych i fyw ac ymweld ag ef.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.