9.6 C
Llanelli
Friday, February 27, 2026
Home hywel dda health board Adfer mesurau yn Ysbyty Glangwili oherwydd cynnydd mewn achosion o COVID-19

Adfer mesurau yn Ysbyty Glangwili oherwydd cynnydd mewn achosion o COVID-19

0
368
GGH
GGH

Yn dilyn adolygiad ffurfiol o weithgarwch COVID-19 yn ei ysbytai, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwneud y penderfyniad anodd i gynyddu mesurau cyfyngol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ar unwaith.

  • Gohirio ymweliadau â chleifion/wardiau o ddydd Iau 14 Gorffennaf, ac eithrio ymweliadau diwedd oes ac unrhyw ymweliadau a ystyrir yn angenrheidiol trwy gytundeb â phrif nyrs y ward
  • Pobl sy’n mynychu apwyntiadau cleifion allanol i fynychu ar eu pen eu hunain oni bai eu bod angen cymorth gofalwr/perthynas/rhiant.
  • Ymweliadau cyfyngedig ar waith ar gyfer unedau mamolaeth, pediatreg a newyddenedigol:
  • Mamolaeth – bydd presenoldeb partner cefnogol yn parhau i gael ei gefnogi;;
  • Pediatreg – un prif riant/gofalwr bob amser gyda’r gallu i newid unwaith yn ystod cyfnod o 24 awr;
  • Newyddenedigol – Mam bob amser gydag ymweliadau cyfyngedig i bartneriaid

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Rydym wedi gwneud y penderfyniad i atgyfnerthu’r mesurau hyn yn Ysbyty Glangwili yn ogystal ag Ysbyty Llwynhelyg er mwyn lleihau’r risg i’n cleifion a’n staff a diolch i bobl am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad ar yr adeg hon.

“Bydd y sefyllfa yn Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg yn cael ei hadolygu a’i diweddaru yn gynnar yr wythnos nesaf, a bydd codi’r cyfyngiadau hyn yn dibynnu ar niferoedd achosion ysbytai a gweithgarwch cymunedol. Gallwn i gyd barhau i gymryd mesurau amddiffynnol i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 i amddiffyn pobl agored i niwed a’r GIG.

Mae ymweliadau ag Ysbyty Bronglais, Ysbyty Tywysog Philip a’n hysbytai cymunedol yn parhau ar agor, trwy apwyntiad yn unig.

“Rydym yn cynghori’n gryf i unrhyw un yn ein hardal sydd â’r symptomau clasurol, neu sy’n amau bod ganddyn nhw COVID-19 i ynysu a gwneud prawf llif ochrol. Os yw’n bositif, rydym yn eich annog i ynysu – bydd hyn yn eich helpu orffwys a gwella wrth amddiffyn eraill rhag y risg o drosglwyddo.”

Os oes gennych symptomau COVID-19 gallwch barhau i archebu prawf LFD yng Nghymru am ddim, tan 31 Gorffennaf, drwy fynd i www.gov.uk a chwilio ‘archebu pecyn prawf llif ochrol’. Os nad ydych chi, neu rywun rydych yn gofalu amdano ar-lein, gallwch ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119).

Cyngor iechyd y cyhoedd yw parhau i ynysu os byddwch yn cael canlyniad cadarnhaol, naill ai am 10 diwrnod, neu ar ôl dau ganlyniad LFD negyddol yn olynol o ddiwrnodau 5 a 6.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.