9.7 C
Llanelli
Thursday, February 26, 2026
Home hywel dda health board Diweddariad ar gyfyngiadau ymweld – ysbytai Glangwili a Llwynhelyg |

Diweddariad ar gyfyngiadau ymweld – ysbytai Glangwili a Llwynhelyg |

0
313
fd60f41be471ae117081a5a304f29b37
fd60f41be471ae117081a5a304f29b37

Yn dilyn adolygiad ffurfiol o weithgarwch COVID-19 yn ei ysbytai, gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gadarnhau y bydd cyfyngiadau ar y rhai sy’n ymweld â chleifion mewnol yn cael eu codi yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg o ddydd Mercher 19 Gorffennaf 2022.

Mae’r canllawiau ymweld canlynol ar waith ar gyfer unedau mamolaeth, newyddenedigol a phediatrig:

  • Mamolaeth – bydd presenoldeb partner cefnogol yn parhau i gael ei gefnogi;
  • Newyddenedigol – rhieni bob amser gydag ymweliadau cyfyngedig i neiniau a theidiau;
  • Pediatrig – gall dau riant/gofalwr ymweld.


Mae ymweliadau ag Ysbyty Bronglais, Ysbyty Tywysog Philip a’n hysbytai cymunedol yn parhau ar agor, trwy apwyntiad yn unig.


Cynghorir y cyhoedd y bydd yn ofynnol gwisgo gorchudd wyneb yn ysbytai Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg, a thrwy asesiad risg mewn safleoedd/ardaloedd eraill.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Yr wythnos diwethaf bu’n rhaid i ni wneud y penderfyniad i ymestyn mesurau yn Ysbyty Glangwili yn ogystal ag Ysbyty Llwynhelyg i leihau’r risg i’n cleifion a’n staff a diolchwn i bobl am eu cefnogaeth a’u chydweithrediad.

“Gallwn ni i gyd barhau i gymryd mesurau amddiffynnol i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed a’r GIG.

“Rydym yn cynghori’n gryf i unrhyw un yn ein hardal sydd â’r symptomau cyffredin, neu sy’n amau bod ganddyn nhw COVID-19 i ynysu a sefyll prawf LFD. Os yw’n bositif, rydym yn annog pobl i ynysu – bydd hyn yn eich helpu i orffwys a gwella wrth amddiffyn eraill rhag y risg o drosglwyddo.”

Os oes gennych symptomau COVID-19 gallwch barhau i archebu prawf LFD yng Nghymru am ddim, tan 31 Gorffennaf, drwy fynd i www.gov.uk (agor yn dolen newydd) a chwilio ‘archebu pecyn prawf llif ochrol’. Os nad ydych chi, neu rywun yr ydych yn gofalu amdano ar-lein, gallwch ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119)

Cyngor iechyd y cyhoedd yw parhau i ynysu os byddwch yn cael canlyniad cadarnhaol, naill ai am 10 diwrnod, neu ar ôl dau ganlyniad LFD negyddol yn olynol o ddiwrnodau 5 a 6.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.