9.2 C
Llanelli
Wednesday, March 11, 2026
Home hywel dda health board Sesiynau brechu plentyndod galw heibio yr haf hwn

Sesiynau brechu plentyndod galw heibio yr haf hwn

0
350
461447C8 290E 49E1 9FBA000790B205B9 carouselimage
461447C8 290E 49E1 9FBA000790B205B9 carouselimage

Mae plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref neu ddim mewn addysg yn cael eu gwahodd i alw i mewn i Ganolfannau Brechu Torfol (MVCs) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dros yr haf i gael mynediad at frechiadau plentyndod a gynigir yn rheolaidd trwy dimau nyrsio ysgol.

Mae’r sesiynau galw heibio hyn hefyd yn agored i unrhyw fynychwyr ysgol yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Ceredigion a allai fod wedi methu eu brechiadau.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae imiwneiddio yn bwysig i blant oherwydd ei fod yn helpu i ddarparu imiwnedd cyn dod i gysylltiad â chlefydau a allai beryglu bywyd.

“Mae imiwneiddio wedi helpu i gael gwared ar rai clefydau gwanychol difrifol iawn. Mae polio a’r frech wen, er enghraifft, bellach wedi’u dileu diolch i frechlynnau.

“Mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael mynediad hawdd at eu brechlynnau sydd wedi’u hamserlennu ac felly rydym yn falch o gynnig y sesiynau galw heibio hyn.”

Rhaid i riant neu warcheidwad sy’n gallu rhoi caniatâd fod yn bresennol gyda’r plentyn/plant.

Bydd sesiynau galw heibio i blant 5 i 17 oed yn cael eu cynnal rhwng 12pm a 6pm yn y lleoliadau canlynol:

  • Canolfan Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, SY23 3AS) – Dydd Mawrth 2 a Dydd Mawrth 30 Awst
  • Canolfan Caerfyrddin (Y Gamfa Wen, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, SA31 3EP) – Dydd Mercher 3 Awst a Dydd Gwener 2 Medi.
  • Canolfan Cwm Cou (Ysgol Trewen, SA38 9PE) – Dydd Llun 8 and Dydd Llun 22 Awst
  • Canolfan Hwlffordd (Archifdy Sir Benfro, SA61 2PE) – Dydd Mercher 10 Awst a Dydd Mercher 31 Awst
  • Canolfan Llanelli (Ystad Ddiwydiannol Dafen, SA14 8QW) – Dydd Mercher 27 Gorffennaf a Dydd Mawrth 23 Awst

Mae croeso hefyd i rieni sydd ag ymholiadau am unrhyw agwedd ar imiwneiddiadau eu plentyn alw i mewn am sgwrs anffurfiol.

Os na allwch ddod i un o’r sesiynau hyn a bod gennych unrhyw ymholiadau neu’n dymuno i’ch plentyn gael ei frechlynnau wedi’u hamserlennu, llenwch y ffurflen sydd ar gael yma hduhb.nhs.wales/vaccine-access-for-home-schooled-children neu ffoniwch 0300 303 8322 i aelod o dîm nyrsio imiwneiddio’r bwrdd iechyd gysylltu â chi.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.