7.9 C
Llanelli
Thursday, March 19, 2026
Home hywel dda health board Cadw’n Iach yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol

Cadw’n Iach yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol

0
504
Eisteddfod
Eisteddfod

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eisiau cynnig cymaint o help a chyngor â phosibl i chi ar gyfer gofalu am eich iechyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni.

O gael eich pwysedd gwaed wedi’i wirio, i arddangosiadau ar lanhau dannedd, neu le i fwydo’ch babi ar y fron, dewch i ymweld â stondin y bwrdd iechyd ar y maes.

Bydd gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol o Ofal Sylfaenol a Chymunedol yn bresennol drwy gydol yr wythnos i chi gael cyngor neu gael eich cyfeirio a thaflenni ar sut i gael mynediad at wahanol wasanaethau ar draws ein bwrdd iechyd.

Ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf a dydd Gwener, 5 Awst, bydd timau Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau ar ein stondin, gyda’r fferyllydd lleol Richard Evans wrth law.

Dywedodd Richard Evans, Fferyllydd Cymunedol: “Rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo’r gwasanaethau y gall fferyllfeydd cymunedol eu darparu i gleifion yn yr Eisteddfod eleni. Mae’r rhain yn cynnwys y Gwasanaeth Anhwylderau CyffredinCynllun Profi a Thrin Dolur GwddfGwasanaeth Haint y Llwybr Wrinol , yn ogystal â’r Gwasanaeth Brechu rhag y Ffliw tymhorol.

Dewch i ymuno â ni ar stondin y bwrdd iechyd, lle byddaf hefyd yn cynnig profion pwysedd gwaed i ymwelwyr, un o lawer o bethau sydd ar gael i unrhyw un sy’n galw heibio”

Bydd sawl gwasanaeth arall hefyd yn bresennol ar ein stondin i hyrwyddo cadw’n iach, gan gynnwys:

  • Gofod i fwydo’ch babi ar y fron
  • Gwybodaeth imiwneiddiadau a brechiadau plentyndod, ffliw, COVID a mwy gan y tîm ddydd Sadwrn 30/Dydd Llun 1/Dydd Mercher 3/Dydd Gwener 5 Awst
  • Bydd y Tîm Iechyd Ieuenctid dangos y gwasanaeth CHATHEALTH newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r gwasanaeth nyrsio ysgolion.
  • Bydd y Tîm Lles Dementia yn darparu asesiad sgrinio ar gyfer unigolion sy’n pryderu am eu newidiadau gwybyddol ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gan unigolion am y gwasanaeth dementia sydd ar gael i bobl sy’n byw yn yr ardal ddydd Sul 31 Gorffennaf
  • Hefyd ddydd Sul 31 Gorffennaf, bydd Tîm Anableddau Dysgu Ceredigion yn rhannu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn lleol i unigolion a gofalwyr
  • Dydd Sul 31 Gorffennaf a dydd Iau 4 Awst bydd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn arddangos eu hymchwil a’u prosiectau arloesol, gan gynnwys y Cynllun Peilot Presgripsiwn Cymdeithasol, prosiect cydnerthedd cymunedol Gofal Cardi (Pecyn Cymorth Gofal Solfach) ac Ar dy Feic – gan gymell pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
  • Dydd Llun 1 Awst, os ydych yn ceisio cyngor ar iechyd traed, gan gynnwys y posibilrwydd o atgyfeiriad i raglen Addysg Camau Iechyd ar gyfer trigolion Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, bydd y tîm Podiatreg ar gael i ateb cwestiynau.
  • Dydd Mawrth 2 Awst, bydd tîm Cynllun Gwên wrth law i roi cyngor ar iechyd y geg – yn enwedig i blant ifanc a’u rhieni, gan gynnwys dangos y ffordd orau o gadw dannedd yn lân ac yn iach.

Ychwanegodd Jo McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n amser cyffrous iawn i fod mewn digwyddiad mor enfawr yn ein cymuned lle gallwn siarad â phobl am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ym maes iechyd a gofal. Rydym yn gyffrous i ddangos y gwaith sy’n cael ei wneud tuag at ein strategaeth hirdymor Canolbarth a Gorllewin Iachach i gadw pobl yn iach a darparu cymorth sydd ei angen arnynt yn eu cymunedau.

“Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chymaint ohonoch â phosib, felly dewch i ddweud helo!”

I gael y diweddaraf o stondin y bwrdd iechyd yn yr Eisteddfod, gallwch ddilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Twitter @BIHywelDda, Facebook – Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a Instagram @hywelddauhb neu dilynwch y sgwrs #HywelaryMaes a #IechydDaHywelDda.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.