Diwrnod Golff Elusennol yn codi £7,000 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
371
FUGS cheque presentation picture min scaled
FUGS cheque presentation picture min scaled

Cododd diwrnod golff elusennol a drefnwyd gan y Falcon Useless Golfing Society (FUGS) swm gwych o £7,000 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Roedd 29 tîm o bedwar yn cymryd rhan yn y twrnamaint golff yng Nghlwb Golff Aberystwyth fis diwethaf.

Dywedodd y trefnydd Barry Phipsom fod y FUGS wedi eu syfrdanu gan y gefnogaeth i’r digwyddiad a’r swm o arian a godwyd.

“Roedd yn ddiwrnod gwych o golff, yn ddiwrnod o hwyl, gyda raffl ac arwerthiant gyda’r nos. Yn cymryd rhan roedd golffwyr sy’n chwarae bob wythnos a’r rhai sydd ond yn chwarae unwaith y flwyddyn.

“Cymorth pobl sy’n gwneud y diwrnod. Roedd pawb mor hael a hoffem ddiolch yn arbennig i Glwb Golff Aberystwyth, am roi defnydd i ni o’r cyfleusterau am ddim, a busnesau lleol a gyfrannodd wobrau raffl ac arwerthiant.”

Ychwanegodd Barry: “Roeddem am gefnogi’r Apêl am uned ddydd cemotherapi newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais. Mae cael gwasanaethau canser lleol yn bwysig i bob un ohonom.”

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym mor ddiolchgar i’r FUGS am godi swm mor wych o arian ar gyfer ein apêl.”

Nod Apêl Cemo Bronglais yw codi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here