18.3 C
Llanelli
Wednesday, September 2, 2026
Home hywel dda health board Mae canolfannau Brechu Torfol BIP Hywel Dda yn symud i apwyntiad yn...

Mae canolfannau Brechu Torfol BIP Hywel Dda yn symud i apwyntiad yn unig

0
413
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0016 1 scaled
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0016 1 scaled

O 31 Awst 2022, bydd mynediad i Ganolfannau Brechu Torfol (MVCs) yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar gyfer brechiadau COVID-19 trwy apwyntiad yn unig i baratoi ar gyfer dechrau rhaglen brechlyn y gaeaf.

Cynghorir unrhyw un sy’n dymuno galw heibio am ei ddos cyntaf neu ei ail ddos yn ystod mis Awst i wirio amseroedd agor ar y diwrnod cyn teithio trwy ymweld â https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/canolfannau-brechu-torfol/ neu ffoniwch 0300 303 8322 gan y gall y rhain newid. Os oes angen dos atgyfnerthu arnoch o hyd, arhoswch i gael cynnig apwyntiad.

O 31 Awst 2022 ymlaen, trefnwch apwyntiad drwy ffonio 0300 303 8322 neu e-bostio COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Trwy gydol y rhaglen frechu rydym wedi ceisio gwneud y brechlyn ar gael yn hawdd trwy gyfuniad o sesiynau galw heibio ac apwyntiadau. Bydd y newid hwn yn ein galluogi i gyflawni’r frechlyn COVID-19 mewn partneriaeth â gwasanaethau gofal sylfaenol a lleihau’r risg o ddyblygu neu wastraffu brechlyn.

“Os ydych chi’n gymwys i gael dos atgyfnerthu COVID-19 yr hydref, arhoswch i gael gwahoddiad naill ai gan eich meddyg teulu neu’r bwrdd iechyd. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig apwyntiad erbyn mis Tachwedd.

“Mae practisau meddygon teulu hefyd yn paratoi i wahodd cleifion cymwys ar gyfer eu brechlyn ffliw tymhorol a’u nod yw cynnig apwyntiad i bawb sy’n gymwys erbyn mis Rhagfyr. Unwaith eto, peidiwch â chysylltu â’ch practis meddyg teulu ar hyn o bryd, byddwch yn cael eich gwahodd pan ddaw eich tro.”

Bydd sesiynau galw heibio wedi’u hamserlennu ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref neu nad ydynt mewn addysg i gael mynediad at frechiadau plentyndod a gynigir yn rheolaidd trwy dimau nyrsio ysgol yn parhau fel yr hysbysebwyd mewn MVCs dethol.

Bydd gweddill y sesiynau galw heibio ar gyfer plant 5 i 17 oed yn cael eu cynnal rhwng 12pm a 6pm yn y lleoliadau canlynol:

  • Campws Llanbadarn, SY23 3AS) – Dydd Mawrth 30 Awst
  •  Canolfan Caerfyrddin (Y Gamfa Wen, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, SA31 3EP) – Dydd Gwener 2 Medi.
  • Canolfan Cwm Cou (Ysgol Trewen, SA38 9PE) –Dydd Llun 22 Awst
  • Canolfan Hwlffordd (Archifdy Sir Benfro, SA61 2PE) – Dydd Mercher 31 Awst
  • Canolfan Llanelli (Ystad Ddiwydiannol Dafen, SA14 8QW) – Dydd Mawrth 23 Awst

Mae croeso hefyd i rieni sydd ag ymholiadau am unrhyw agwedd ar imiwneiddiadau eu plentyn alw i mewn am sgwrs anffurfiol.

Os na allwch ddod i un o’r sesiynau hyn a bod gennych unrhyw ymholiadau neu’n dymuno i’ch plentyn gael ei frechlynnau wedi’u hamserlennu, llenwch y ffurflen sydd ar gael yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/imiwneiddio-a-brechu/brechu-plant-a-phobl-ifanc/mynediad-at-frechly-i-blant-syn-cael-eu-haddysgu-gartref/ neu ffoniwch 0300 303 8322 i aelod o dîm nyrsio imiwneiddio’r bwrdd iechyd gysylltu â chi.

I gael rhagor o wybodaeth am raglen brechlyn y gaeaf a chymhwysedd ar gyfer y brechlynnau COVID-19 a ffliw, ewch i https://llyw.cymru/rhaglen-frechur-gaeaf-yn-erbyn-feirysau-anadlol-cynnwys-hydref-gaeaf-2022-i-2023


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.