16.8 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle 100 diwrnod i fynd: Cronfa £1.5m yn agor i ddathlu Cymru yng...

100 diwrnod i fynd: Cronfa £1.5m yn agor i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd

0
388
Wales fans red wall with Together Stronger slogan in stadium min
Wales fans red wall with Together Stronger slogan in stadium min

Wrth i ni ddechrau cyfri y 100 diwrnod i lawr tan gêm gyntaf Cwpan y Byd Cymru mewn 64 o flynyddoedd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio cronfa gwerth £1.5 miliwn i hyrwyddo a dathlu Cymru.

Bydd y gronfa yn cefnogi amrywiol sefydliadau o ddiwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a’r cyfryngau ar gyfer gweithgareddau i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd.  Gallai hyn gynnwys gweithgaredd i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang, darparu digwyddiadau i gymryd rhan mewn chwaraeon, cysylltu â’r Cymry ar wasgar, neu helpu cefnogwyr i ddathlu’r gemau yma yng Nghymru a ledled y byd.

Mae Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd yn un rhan o’r gweithgareddau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n deillio o gyfranogiad cyffrous Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

Wales Red Wall Football Fans Together Stronger Poster

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r twrnamaint byd-eang i hyrwyddo Cymru i’r byd, gan amlygu gwerthoedd ein gwlad a sicrhau gwaddol gadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Wrth i ni gyrraedd y garreg filltir o 100 diwrnod, gallwch wir deimlo’r cyffro yng Nghymru. Dwi methu aros i fod yn rhan o’r Wal Goch yn Qatar!

“Dwi’n falch iawn i lansio’r gronfa £1.5m hon heddiw, a fydd yn helpu ein partneriaid i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle cyffrous hwn a rhoi hwb i broffil Cymru a sicrhau manteision gwirioneddol i Gymru.

“Mae cyfranogiad Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon byd-eang yn un o’r cyfleoedd gorau un i hybu proffil ein gwlad a dangos i’r byd fod Cymru yn wlad agored, groesawgar ac uchelgeisiol.

“Mae tîm pêl-droed dynion Cymru yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA yn y cyfle pwysicaf i farchnata ac ar gyfer diplomyddiaeth chwaraeon a gafwyd erioed – a byddwn yn gwneud y mwyaf ohono.

“Rydym yn chwilio am syniadau cyffrous, arloesol ac effeithiol fydd yn gwneud i Gymru sefyll allan yn ystod Cwpan y Byd.“


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.