Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros Ŵyl Banc Awst

0
390
SR 18795 may bin newsroom 500 x 328 min
SR 18795 may bin newsroom 500 x 328 min

NID OES unrhyw newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gaerfyrddin dros Ŵyl Banc Awst.

Dylai preswylwyr roi eu sbwriel mas erbyn 6am ar eu diwrnod casglu arferol. Bydd gwastraff hylendid/cewynnau a gwastraff gardd hefyd yn cael eu casglu yn ôl yr arfer.

Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch dim mwy na thri bag du bob pythefnos.

Er bod y cyngor yn bwriadu casglu fel arfer, efallai na fydd hyn yn bosibl ym mhobman a gallai newid ar fyr rybudd. Cadwch lygad ar dudalen Facebook y cyngor am unrhyw ddiweddariadau.

Mae’r canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nant-y-caws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar agor ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ac i gadarnhau pryd mae eich casgliad, ewch i sirgar.llyw.cymru/ailgylchu


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here