Dymuna Cyngor Sir Caerfyrddin longyfarch holl fyfyrwyr y sir sy’n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch a Safon UG , ddydd Iau 18 Awst 2022.
Er bod eleni wedi gweld dychwelyd i ganlyniadau seiliedig ar arholiadau, yn dilyn dwy flynedd o raddio ar sail asesiadau yn ystod pandemig COVID-19, mae myfyrwyr ac athrawon dal wedi gorfod ymdopi ag effaith barhaus y ddwy flynedd ddiwethaf.
Llwyddodd cyfanswm o 98.6% o fyfyrwyr Safon Uwch yn Sir Gaerfyrddin i gael graddau A*-E, sy’n uwch na’r 97.3% yn 2019, sef pryd cynhaliwyd arholiadau ddiwethaf.
Ledled Sir Gaerfyrddin, mae cyfanswm o 40.1% o fyfyrwyr Safon Uwch wedi derbyn gradd A neu A* eleni, sy’n uwch o lawer na’r 24.9% pan gafodd arholiadau eu cynnal ddiwethaf yn 2019.
Ar ôl 2 flynedd heb arholiadau, cafodd myfyrwyr Safon UG hefyd gyfle eleni i ddangos pa wybodaeth roedden nhw wedi’i dysgu a pha sgiliau roedden nhw wedi’u datblygu, trwy gyfuniad o arholiadau ac asesiadau, oedd yn berthnasol i wahanol gyrsiau. Llwyddodd 91.8% o fyfyrwyr Safon UG yn Sir Gaerfyrddin i gael graddau A-E, sydd eto’n uwch na 2019.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “Llongyfarchiadau i bob un myfyriwr sy’n derbyn ei ganlyniadau Safon Uwch a Safon UG heddiw. Mae’r bobl ifanc hyn a’u hathrawon wedi gweithio’n hynod o galed, a hynny mewn amgylchiadau ansicr oherwydd y pandemig, ac fe ddylen nhw fod yn falch iawn, fel ydw i, o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.
“Rwy’ am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i fyfyrwyr, athrawon, a staff cymorth Sir Gâr, yn ogystal â’u teuluoedd, am eu gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Mewn datganiad ar y cyd, ychwanegodd Wendy Walters, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, a Gareth Morgans, y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant: “Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr Safon Uwch a Safon UG ar eu canlyniadau rhagorol, sy’n haeddiannol iawn. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i fyfyrwyr, athrawon, staff cymorth, teuluoedd, a ffrindiau, ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth i’w gilydd yn ystod y cyfnod hwn.
“Mae’r bobl ifanc hyn yn glod i’w hysgolion ac i’n sir ni, ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw i’r dyfodol.”

| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |
















