16.5 C
Llanelli
Friday, May 8, 2026
Home Charity Codwr arian yn rhedeg 200km ar gyfer elusen ar ôl gorffen triniaeth...

Codwr arian yn rhedeg 200km ar gyfer elusen ar ôl gorffen triniaeth canser

0
575
jason clifton
jason clifton

Gosododd Jason Clifton yr her anhygoel iddo’i hun o redeg 200km trwy gydol mis Awst i godi arian at elusen.

Cafodd Jason ddiagnosis o garsinoma celloedd cennog ym mis Rhagfyr 2021. Cafodd 30 rownd o radiotherapi a dwy lot o gemotherapi dros gyfnod o dri mis.

Rhwng ei ddiagnosis a’i driniaeth, dioddefodd Jason hefyd golled drasig ei dad a thri aelod arall o’r teulu.

Derbyniodd Jason gefnogaeth a gofal anhygoel gan deulu, ffrindiau a chymdogion, a staff Adran Canser y Pen a’r Gwddf yn Ysbyty Glangwili a’r tîm Radiotherapi yn Ysbyty Singleton. Bydd yn rhoi elw o’i ddigwyddiad codi arian i’r ddau wasanaeth.

Dywedodd Jason: “Dechreuais redeg ar ôl i’m triniaeth ddod i ben. Roedd mynd allan ym myd natur wedi fy helpu yn aruthrol. Fe wnes i therapi dŵr oer hefyd. Penderfynais redeg 200km ym mis Awst i helpu eraill. Rwyf hefyd am roi rhywbeth yn ôl i Adran Canser y Pen a’r Gwddf yn Ysbyty Glangwili ac adran Radiotherapi yn Ysbyty Singleton.


“Diolch i bawb a oedd gyda mi ar fy nhaith drwy amseroedd anodd, diolch i dîm Canser Pen a Gwddf Caerfyrddin a Radiotherapi a Chemotherapi Singleton am eich holl gymorth a chefnogaeth.”

I gyfrannu at ddigwyddiad codi arian Jason, ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/jason-clifton1

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here