12 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home hywel dda health board Lansio menter blodau haul i gefnogi llesiant staff

Lansio menter blodau haul i gefnogi llesiant staff

0
406
Untitled design 1 min
Untitled design 1 min

Lansiwyd menter Blodau Haul er Llesiant Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) ar draws y bwrdd iechyd ym mis Mai, i gefnogi llesiant staff.

Mae’r cynllun yn rhan o’r fenter hyrwyddwyr llesiant a ariennir gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd. Y nod yw annog staff ar draws y bwrdd iechyd i dyfu blodau haul, i fanteisio ar fanteision bod yn yr awyr agored, i gymryd sylw a dysgu am natur, ac i greu rhai sgyrsiau cadarnhaol o fewn ac ar draws timau, sydd oll yn cyfrannu at ein pum ffordd at lesiant.

Mae Pum Ffordd at Lesiant yn cynnwys cysylltu â phobl, bod yn egnïol, cymryd sylw o’r byd o’n cwmpas, dysgu parhaus a rhoi. Mae gweithwyr proffesiynol iechyd cyhoeddus yn argymell bod y Pum Ffordd at Lesiant yn cael eu hymgorffori yn ein bywyd bob dydd i wella llesiant.

Dywedodd Paul Harries, Arbenigwr Chwarae ar Ward Angharad, Ysbyty Bronglais: “Mae menter Blodau Haul er Llesiant wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith y tîm o staff ar Ward Angharad.

“Fel Hyrwyddwyr Llesiant y ward, penderfynodd fy nghydweithiwr Sian Davies a minnau ddarparu hadau i staff y ward yn ogystal â phecyn cyfan o eitemau – compost, pot, label a ffon i dyfu’r blodau haul i’w galluogi i blannu eu hadau gartref.

“Rydym i gyd wedi mwynhau tyfu’r blodau haul ac mae’r fenter wedi bod yn bwnc trafod cyson, yn y gwaith ac ar ein grŵp WhatsApp ar y ward! Rydyn ni hefyd wedi creu arddangosfa ar ward y plant gyda lluniau o flodau haul gwahanol aelodau o staff yn dangos sut maen nhw’n dod yn eu blaenau.

“Mae’r fenter wedi rhoi ffocws i staff mewn sgwrs nad yw’n gysylltiedig â gwaith, mae wedi caniatáu i ni rannu cynnydd ac awgrymiadau ar dyfu yn yr ystafell staff ac ar gyfryngau cymdeithasol, ac wedi ymgysylltu â staff na fyddent efallai fel arfer yn tyfu planhigion nac yn treulio llawer o amser yn yr ardd. Mae hyn i gyd yn bendant wedi helpu llesiant pawb dan sylw, fel unigolion ac fel tîm.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd BIP Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd bod ein hyrwyddwyr llesiant wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid i roi’r fenter hon ar waith a chyflawni eu nod. Mae’n wych gweld bod ein staff yn cysylltu â byd natur ac yn cefnogi eu llesiant.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.