15.1 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle “Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb ledled Cymru sy’n gweithredu fel gwesteiwyr...

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb ledled Cymru sy’n gweithredu fel gwesteiwyr i Wcreiniaid, ond mae’n hanfodol bod mwy o aelwydydd yn cynnig lle.”

0
429
Wales stands with Ukraine WELSH
Wales stands with Ukraine WELSH

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt ar y Cynllun Cartrefi i Wcráin.

Yn y diweddariad diweddaraf ar sefyllfa Argyfwng Wcráin, mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi diolch i’r holl aelwydydd hynny ledled Cymru sydd wedi cynnig eu cartrefi i Wcreiniaid sy’n ffoi o’r Rhyfel ac mae’n annog mwy o aelwydydd i ddarparu’r cymorth hanfodol hwn.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Rwy’n falch iawn o ddweud bod mwy na 5,650 o bobl o Wcráin, sy’n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd yng Nghymru, eisoes wedi cyrraedd y DU. Mae mwy nag 8,200 o fisas wedi cael eu rhoi bellach i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i nifer y rhai sy’n cyrraedd barhau i gynyddu yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Noddodd miloedd o aelwydydd o Gymru Wcreiniaid i gyrraedd Cymru ac fe wnaethant ymrwymo i’w cynnal am o leiaf 6 mis. Wrth i ni symud i’r hydref, rydym yn nesáu at ddiwedd y cyfnod cychwynnol hwnnw. Rydym yn gobeithio y bydd y gwesteiwyr a’r Wcreiniaid yn cytuno i ymestyn llawer o’r lleoliadau hynny, ond mae arnom angen gwesteiwyr ychwanegol i gefnogi’r rhai na allant barhau i fyw lle maent.”

“Er mwyn sicrhau croeso cynnes i Gymru, rwy’n rhoi gwahoddiad i aelwydydd ledled Cymru agor eu cartrefi i groesawu’r rhai sy’n ceisio noddfa. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb ledled Cymru sy’n gweithredu fel gwesteiwyr i Wcreiniaid, ond mae’n hanfodol bod mwy o aelwydydd ar gael.

“Rwy’n deall yn llwyr bod rhai pobl eisiau helpu ond efallai nad oes ganddynt yr adnoddau i wneud hynny, o ystyried yr amgylchiadau rydym i gyd yn eu hwynebu gyda’r argyfwng costau byw. Ond yr hyn rydym i gyd yn ei wybod, ac sydd wedi’i brofi droeon, yw bod pobl Cymru ymhlith y rhai mwyaf hael ledled y byd ac rwy’n siŵr y byddwn yn camu i’r adwy unwaith eto.

“Gall y syniad o groesawu pobl i’ch cartref fod yn heriol. Dyma pam rydym wedi ariannu Housing Justice Cymru i ddarparu gwasanaeth Cymorth i Westeiwyr sy’n cynnwys gwybodaeth arbenigol a dibynadwy, hyfforddiant, cyngor ac arweiniad i bobl sy’n croesawu, neu’r bobl sy’n ystyried croesawu, Wcreiniaid i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau a hyfforddiant ar gael ar wefan Housing Justice Cymru. Rydym hefyd yn cyhoeddi canllawiau sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ar gyfer gwesteiwyr a noddwyr yn gov.wales/ukraine.

“Mae arnom angen llawer mwy o aelwydydd o hyd i ystyried a allant ddarparu cartref i’r rhai mewn angen. Byddai hyn fel rheol yn ymrwymiad i letya am 6 i 12 mis. Os oes unrhyw un yn ystyried hyn rydym yn eu hannog i gofrestru eu diddordeb yn gov.wales/offerhome, ac i fynychu un o’r sesiynau ‘Cyflwyniad i Westeio’, a hwylusir gan Housing Justice Cymru. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth i barhau â’r broses os byddwch yn penderfynu nad yw ar eich cyfer chi.”

“Rydym hefyd wedi ffurfio partneriaeth gydag Airbnb.org i sicrhau y gellir darparu lleoliadau brys am dymor byr iawn i atal digartrefedd. Os na allwch chi letya am fwy na 6 mis ond y gallech chi gynnig eich eiddo am hyd at 30 diwrnod ar y tro, efallai y byddwch yn gallu cyfrannu hefyd. Ewch i gov.wales/offerhome a dilynwch y ddolen i blatfform Airbnb.org.”

Yn olaf, dywedodd y Gweinidog:

“Byddwn yn parhau i gyfathrebu â’r rhai sy’n cynnal Wcreiniaid, gyda chanllawiau a gwybodaeth wedi’u diweddaru i gefnogi’r rôl werthfawr rydych chi’n ei chyflawni.

“I bawb sydd eisoes yn cynnal Wcreiniaid ac i’r rhai sy’n ystyried hynny, diolch yn fawr, mae arnom ni ddyled enfawr i chi i gyd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.