18.1 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle Datganiad Cyllidol yn “gambl enfawr ar iechyd yr economi”

Datganiad Cyllidol yn “gambl enfawr ar iechyd yr economi”

0
562
Money min
Money min

Gofynnwyd am gyfarfod brys gyda’r Canghellor

Mae llywodraethau datganoledig y DU yn galw am gyfarfod brys gyda’r Canghellor Kwasi Kwarteng i drafod gweithredu ar unwaith i wyrdroi effeithiau niweidiol y datganiad cyllidol.

Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi ymuno ȃ Gweinidogion Cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon i dynnu sylw at yr effaith niweidiol “y gyfres fwyaf o doriadau treth heb ei ariannu ar gyfer y cyfoethog mewn dros 50 mlynedd” gan honni ei fod yn “gambl enfawr gyda cyllid cyhoeddus ac iechyd ein heconomi”.

Mewn llythyr ar y cyd, maen nhw’n rhybuddio’n erbyn cael eu gorfodi i ddegawd arall o gynni ac yn mynegi pryder mawr ynghylch adroddiadau y bydd gofyn i adrannau Llywodraeth y DU wneud toriadau gwariant i gydbwyso’r gyllideb. Gallai hyn fod â chanlyniadau dwys i gyllidebau datganoledig, sy’n barod wedi’u herydu gan chwyddiant.

Mae’r Gweinidogion hefyd yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i aelwydydd a busnesau, cymorth fyddai’n cael ei ariannu trwy dreth ar y sector ynni. Yn ogystal, maen nhw’n galw am gyllid ychwanegol i gynyddu budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol i gefnogi aelwydydd incwm isel gyda’r costau uwch y byddant yn eu hwynebu drwy’r gaeaf, gan gynnwys cynnydd o £25 yr wythnos ar gyfer y Credyd Cynhwysol a budd-daliadau etifeddiaeth.

Drwy ddiddymu’r gyfradd 45c y dreth incwm, mae Llywodraeth y DU wedi dangos yn glir beth yw eu bwriad. Bydd hyn yn gwneud y cyfoethog yn gyfoethocach ac yn achosi anghydraddoldeb pellach yn ein cymunedau.

Darllenwch y llythyr yn llawn yma:


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.