17.6 C
Llanelli
Wednesday, September 2, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Y Cyngor yn cefnogi gwasanaeth trên intercity newydd rhwng Caerfyrddin a Paddington...

Y Cyngor yn cefnogi gwasanaeth trên intercity newydd rhwng Caerfyrddin a Paddington Llundain

0
819
TfW 4 1
TfW 4 1

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn llwyr gefnogol o gynnig Grand Union Trains i weithredu gwasanaeth trên intercity newydd rhwng Caerfyrddin a Paddington Llundain, gyda phum gwasanaeth dychwelyd bob dydd.

Mae’r cais, sydd wedi’i gyflwyno gan Grand Union Trains (GUT), yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR).

Mae’r cais yn cynnwys ymrwymiad i adeiladu gorsaf ‘parcffordd’ newydd yn Felindre, i’r gogledd o Abertawe, a fydd yn golygu bod y daith o Gaerfyrddin a Llanelli i Gaerdydd ac ymlaen i Lundain rhyw 20 munud yn llai. Caiff y gwasanaethau eu gweithredu gan drenau deuol newydd sbon sy’n gallu defnyddio trydan neu ddisel.

Mae’r cynnig i gael gwasanaeth trenau o safon uchel, gan gwtogi’r daith rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd tua ugain munud, yn gyfle pwysig i newid arferion teithio pobl, oherwydd bydd y daith ar drên wedyn yn debycach o ran amser i’r hyn a gymerir i fynd mewn car o Gaerfyrddin i Gaerdydd ac ymlaen i Lundain.

Ac iddi boblogaeth o 185,610, mae Sir Gâr yn rhoi pwys ar ei gwasanaethau trên, a dengys ffigurau cyn y pandemig fod tua 997,000 o deithiau ar reilffyrdd yn cael eu gwneud i’r sir, o’r sir, ac o fewn y sir bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae’r Cyngor am gynyddu’r nifer hwn, wrth i’r ffigurau cyn y pandemig ddangos mai gan Sir Gâr oedd y ffigurau traffig trydydd uchaf yng Nghymru, ar ôl Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.

Mae’r potensial sydd gan gynnig Grand Union Trains i newid dulliau teithio pobl yn cael ei groesawu gan y Cyngor ac yn cyd-fynd ag amcanion polisi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Byddai gwella’r gwasanaeth trenau i Sir Gaerfyrddin ac oddi yma hefyd yn ategu prosiectau datblygu mawr yr awdurdod, fel Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n cael ei ddatblygu gyda chydweithwyr rhanbarthol ac a fydd yn rhoi hwb economaidd o £1.8 biliwn o leiaf i ranbarth De-orllewin Cymru, gan greu 9,000 o swyddi newydd.

Byddai Canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin, pencadlys S4C bellach, hefyd yn elwa ar y cysylltiadau rheilffordd gwell.

Mae ‘Pentre Awel’ yn ddatblygiad o bwys arall o fewn y sir sydd eisoes ar y gweill. Golyga’r datblygiad hwn y bydd arloesi ym maes gwyddor bywyd, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern yn cael eu lleoli yn Ne Llanelli, a hynny gannoedd o fetrau’r unig o Orsaf Reilffordd Llanelli. Bydd y prosiect yn creu 1,800 o swyddi ac yn rhoi hwb o fwy na £467m i’r economi leol.

Bydd y prosiectau strategol hyn, ynghyd ag eraill megis datblygu ein safle cyflogaeth strategol yn Cross Hands a datblygu Llwybr Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, yn hybu twf ac yn darparu cyfleoedd pellach i wella cysylltedd rheilffyrdd i’r sir, a’r tu hwnt i Sir Benfro.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu system drafnidiaeth Metro De-orllewin Cymru a’r gobaith yw y bydd y trenau’n ategu Metro De-orllewin Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Rwyf i, ynghyd â’r Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Edward Thomas, wedi ysgrifennu at y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, yn cadarnhau bod Cyngor Sir Gâr yn cefnogi cynnig Grand Union Trains yn llwyr.

“Mae cynnig Grand Union Trains ar gyfer gwella gwasanaethau gan ddarparu gwell cysylltedd o ran rheilffyrdd ac amseroedd teithio i Gaerfyrddin a Gorllewin Cymru, trwy fuddsoddiad allanol, yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr, ac os bydd yn llwyddiannus bydd yn rhoi i drigolion Sir Gâr wasanaethau trên intercity o safon, sy’n mynd yn uniongyrchol i Lundain. 

“Bydd yn golygu y gall trenau gystadlu â’r car, a thrwy hynny roi cyfle i newid dulliau teithio a lleihau’r effaith gaiff teithio ar newid hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae llawer o drigolion Sir Gâr yn gyrru naill ai i Gastell-nedd neu Bort Talbot er mwyn dal trên i Gaerdydd neu Lundain, sy’n ychwanegu at lefelau traffig ar yr M4 yng nghyffiniau Abertawe. Mae angen i ni helpu pobl i ddefnyddio llai o’r car a mwy o’r rheilffyrdd.

“Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wastad wedi cefnogi’r achos dros wella cysylltedd a lleihau amseroedd teithio drwy ddefnyddio Llinell Ardal Abertawe. Bydd teithiau sy’n cymryd llai o amser yn y modd hwn yn helpu i sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol i Sir Gaerfyrddin a gweddill Gorllewin Cymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.