19 C
Llanelli
Sunday, September 20, 2026
Home Newyddion Lle Astudiaeth ôl Covid newydd yn datgelu bod plant eisiau mwy o le...

Astudiaeth ôl Covid newydd yn datgelu bod plant eisiau mwy o le ac amser i chwarae

0
457
pexels lukas 296302 scaled
pexels lukas 296302 scaled

Hoffai plant gael mwy o le ac amser i chwarae gyda’u ffrindiau yn yr ysgol a gartref, yn ôl astudiaeth newydd a arweinir gan ymchwilwyr Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Archwiliodd yr astudiaeth farn 20,000 o blant o ran chwarae cyn ac ar ôl i ysgolion gael eu cau oherwydd Covid 19. Roedd yr ymchwil yn cynnwys plant ysgolion cynradd rhwng 8 ac 11 oed yng Nghymru a oedd wedi cymryd rhan yn arolwg Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN rhwng 2016 a 2021. Mae’r arolwg wedi cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am iechyd a lles plant, gan gynnwys cwestiynau pen agored am beth a allai eu gwneud nhw’n hapusach.

Nodwyd pum thema’n seiliedig ar ymatebion y plant. Mae’r rhain yn cynnwys lle i chwarae, argymhellion ar chwarae, cael caniatâd i chwarae, eu teimladau am iechyd a lles a chwarae, a chael amser i chwarae.

Y prif argymhelliad gan blant wrth i ni ddod allan o Covid-19 yw yr hoffent gael mwy o le i chwarae (y tu allan i gartrefi, gan gynnwys gerddi), mwy o amser gyda ffrindiau ac amser wedi’i glustnodi i chwarae gyda ffrindiau yn yr ysgol a gartref. Mae’r astudiaeth hon yn amlygu argymhellion allweddol i hyrwyddo, diogelu a hwyluso chwarae i blant. Dyma’r pethau y gwnaeth y plant eu hargymell:

  • Mannau wedi’u clustnodi ar gyfer chwarae, gan gynnwys buddsoddiad mewn gwaith cynnal a chadw a diogelwch. Sicrhau bod mannau wedi’u dylunio ar gyfer cerddwyr ac nid llif traffig trwm.
  • Hwyluso cyfleoedd i blant gymdeithasu â’u ffrindiau a’u teulu lle bynnag y bo’n bosib.

Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu’r angen i wrando ar blant ac ymgynghori â nhw er mwyn nodi dymuniadau ac anghenion penodol o chwarae.

Serch hynny, er bod ymchwil i’r pandemig wedi amlygu gostyngiad yng ngweithgarwch plant, ceir tystiolaeth hefyd sy’n awgrymu efallai fod y pandemig wedi bod yn gyfle da i blant chwarae a bod yn actif.

Meddai Dr Michaela James, y prif ymchwilydd: “Mae’n amlwg o’n gwaith ymchwil fod plant am i lywodraethau, awdurdodau lleol ac ysgolion wrando ar eu barn am ddarpariaeth chwarae. Drwy wrando ar farn ac argymhellion plant o ran chwarae, gallai fod yn gam enfawr ymlaen ar gyfer diogelu iechyd meddwl a lles ein plant a chenedlaethau’r dyfodol. Nhw yw’r arbenigwyr o ran yr hyn sydd ei angen arnynt. 

“Rhaid i ni wrando ar yr argymhellion hyn ac eirioli dros ddymuniadau ac anghenion plant, yn enwedig o ran rhoi lle diogel i blant chwarae, hwyluso cymdeithasu, a chydnabod pa mor fuddiol a hanfodol yw chwarae i ddatblygiad, iechyd a lles plant.”

Ychwanegodd Marianne Mannello, Chwarae Cymru: “Mae chwarae yn cael effeithiau cadarnhaol ar ganlyniadau iechyd tymor hir pwysig, gan gynnwys gweithgarwch corfforol cynyddol, gwella lles plant a helpu i ddatblygu gwytnwch.  Mae’r pleser uniongyrchol y mae plant a’u teuluoedd yn ei gael o ganlyniad i chwarae yr un mor bwysig. 

“Yn Chwarae Cymru, rydym yn croesawu’r ymchwil hon sy’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni o’r hyn sy’n bwysig i blant a’r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn eu helpu i ail-gydio mewn gweithgareddau corfforol i helpu eu hiechyd a’u lles. 

“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwrando ar farn plant ac yn cael gwared ar y rhwystrau i chwarae.  Bydd hyn yn eu helpu i gefnogi eu lles, ac i fwynhau plentyndod hapus ac iach.”

Mae’r gwaith hwn mewn partneriaeth â Chwarae Cymru ac fe’i cefnogir gan NCPHWR ac YDG Cymru.

Gallwch ddarllen y cyhoeddiad llawn yma 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.