9.3 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Newyddion Lle Ymchwil yn dangos effaith Covid ar les arweinwyr ysgolion Cymru

Ymchwil yn dangos effaith Covid ar les arweinwyr ysgolion Cymru

0
328
ISS 35069 32630 scaled
ISS 35069 32630 scaled

Mae ymchwil newydd wedi datgelu’r effaith a gafodd pandemig Covid-19 ar staff uwch ysgolion Cymru.

Yn ôl adroddiad gan Brifysgol Abertawe mae eu lles nid yn unig yn is na chyfartaledd y DU, ond fe wnaeth uwch arweinwyr hefyd wynebu straen cymedrol i uchel gyda mwy na hanner yn arddangos symptomau iselder.

Cymerodd mwy na 170 o uwch arweinwyr  ysgolion ledled Cymru ran yn Arolwg Arweinyddiaeth Ysgolion Covid-19  a oedd â’r nod o archwilio’r baich a’r straen a brofodd penaethiaid ysgolion a staff arweinyddiaeth uwch yn ystod Covid-19.

Erbyn hyn mae eu hymatebion yn sail i adroddiad newydd, dan arweiniad Dr Emily Marchant, o Adran  Addysg ac Astudiaethau Plentyndod a Gwyddor Data Poblogaethau mewn cydweithrediad ag Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. 

Cynhaliwyd Adroddiad Astudiaeth Arweinyddiaeth Uwch Covid-19 2022  drwy rwydwaith ysgolion cynradd HAPPEN Cymru sy’n rhan o astudiaeth ryngwladol ehangach drwy Rwydwaith Llythrennedd Iechyd Covid-19 sy’n rhychwantu dros 30 o wledydd. 

Rhoddodd ymchwil flaenorol sylw i effaith cau ysgolion ar iechyd a lles disgyblion a’r heriau dysgu a datblygu ar gyfer staff addysgu a chefnogi, ond eglurodd Dr Marchant fod bwlch mewn tystiolaeth sy’n archwilio effeithiau’r pandemig ar benaethiaid ac arweinwyr ysgolion.

Dywedodd: “Mae hwn yn faes pwysig gan fod penaethiaid ac uwch-arweinwyr ysgolion wedi ymdrin â sefyllfa ac amgylchedd gwaith hollol newydd, a ofynnodd iddynt wneud penderfyniadau ac arwain yng nghyd-destun yr heriau niferus maent wedi gorfod eu meistroli a’u rheoli. 

“Nhw sy’n gyfrifol am bob agwedd ar fywyd ysgol a bu’n rhaid iddyn nhw ymdopi â gofynion arbennig o drwm yn ystod Covid. Mae adroddiad a gomisiynwyd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi trafod argyfwng posib mewn arweinyddiaeth addysg o safbwynt recriwtio a chadw penaethiaid, a’r rôl bwysig y gall lles arweinwyr ei chwarae wrth osgoi hyn.”

Dangosodd yr arolwg fod 75 y cant o’r staff wedi dweud eu bod yn gweithio ar lefel yr oedden nhw’n gwybod nad oedd yn dda iddyn nhw yn ystod y pandemig, gwnaeth 93 y cant oriau ychwanegol a chyfaddefodd y mwyafrif eu bod wedi blino’n feddyliol gan y swydd.

Gofynnwyd hefyd i arweinwyr ysgolion raddio anghenion iechyd eu staff ac o safbwynt iechyd meddwl, dywedodd 91 y cant mai’r mater pwysicaf oedd straen ac ymdopi. Cafodd problemau mewnol megis gorbryder ac iselder hefyd eu graddio’n uchel.

Dywedodd Dr Marchant: “Er mwyn diogelu iechyd a lles arweinwyr ysgol, dylid canolbwyntio ar raglenni ataliol er mwyn gwella’r adnoddau sydd ar gael i arweinwyr wrth ymdopi â gofynion a phethau sy’n achosi straen mewn perthynas â gwaith. Rhaid ystyried hyn ar lefel unigol, sefydliadol a systematig i gefnogi arweinwyr yn eu rôl”

Mae’r adroddiad nawr yn argymell:

  • Dull mwy strategol o gefnogi lles arweinwyr addysg yng Nghymru;
  • Mwy o eglurder ar gynnwys ac ansawdd y ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth i gefnogi lles arweinwyr yn benodol; ac,
  • Ymchwil pellach sy’n mapio newidiadau i les arweinwyr dros amser a allai gyfrannu at gryfhau’r sylfaen dystiolaeth yn y maes hwn.

Ychwanegodd cydweithredwr y prosiect, Tom Crick, Athro Digidol a Pholisi a Dirprwy Is-ganghellor Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Abertawe: “Mae recriwtio a chadw staff ysgol yn flaenoriaeth genedlaethol, yn enwedig yng nghyd-destun yr arweinyddiaeth sydd ei hangen ar bob lefel i roi’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith yn llwyddiannus ynghyd â diwygiadau i systemau addysg ehangach a geir ar hyn o bryd. 

“Gallai mynd i’r afael â lles ar draws y sector gyfrannu at hyn, wrth i ni ddechrau ar normal newydd ôl-Covid ar gyfer addysg yng Nghymru”.
Bydd Dr Merchant nawr yn cyflwyno ei chanfyddiadau yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Ewrop  yn Berlin, yr Almaen, yn ddiweddarach y mis hwn


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.