3.2 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd

Cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd

0
454

Mae trenau, pont reilffordd a phrif swyddfa Trafnidiaeth Cymru (TrC) i gyd yn cael eu trawsnewid i gefnogi tîm pêl-droed dynion Cymru yng Nghwpan y Byd.

Mae nifer o drenau TrC yn mynd i gael eu haddurno â darlun gan yr artist lleol Phil Morgan, a grëwyd ar gyfer Gŵyl Cymru, mewn pryd ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn y twrnament yn erbyn UDA ddydd Llun 21 Tachwedd.

Mae tlws Cwpan y Byd a het fwced hefyd wedi’i droi’n furlun eiconig ar Bont Heol Casnewydd yng Nghaerdydd, un o’r llwybrau prysuraf i mewn i brifddinas Cymru.

Mae’r murlun wedi’i greu gan yr artistiaid gweledol Yusuf Ismail a Shawqi Hasson, sy’n ffurfio cydweithfa greadigol Unify o Gaerdydd ac wedi’i gynhyrchu fel rhan o Ŵyl Cymru, gŵyl gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Antonio DiCaprio, Rheolwr Safonau Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Rydym yn gyffrous am y gwaith y mae Yusuf a Shawqi (Unify) wedi’i gwblhau i ni a CBDC ar ein seilwaith.

“Rydym wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â CBDC ac Unify i greu mwy o gyfleoedd gwaith celf ar gyfer ein seilwaith gyda’r diben o gysylltu, ysbrydoli a chyffroi ein cymunedau lleol drwy chwaraeon a’r gwaith rydym ni yn Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.”

Mae Trafnidiaeth Cymru ynghyd â’u Rheolwr Seilwaith, Amey Infrastructure Wales, sy’n berchen ar ac yn cynnal Pont Heol Casnewydd, wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd a Centregreat Rail i hwyluso a chefnogi gosod y gwaith celf ar y bont, sydd wedi’i gomisiynu gan CBDC.

Dywedodd Yusuf Ismail, o Unify: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o osod y gwaith celf hwn a hoffem ddiolch i’r holl bartneriaid a gymerodd ran i wneud i hyn ddigwydd.

“Mae’r ymateb wedi bod yn hynod gadarnhaol ac yn helpu i gadarnhau’r etifeddiaeth yn y foment hanesyddol hon ym mhêl-droed Cymru.”

Yn ogystal â’r gwaith i drawsnewid ei drenau a phont Heol Casnewydd, bydd TrC hefyd yn goleuo ei brif swyddfa’n goch pan fydd Cymru’n chwarae yn erbyn UDA, Iran a Lloegr yng Nghwpan y Byd.

Mae staff TrC o bob rhan o rwydwaith trenau, bysiau a theithio llesol Cymru hefyd wedi recordio fideo ‘pob lwc’ dwyieithog i gefnogi carfan Rob Page, a dydd Mercher fe wnaeth aelodau o Gôr Meibion ​​Tonna gan i deithwyr rheilffordd gan berfformio’r anthem ar nifer o wasanaethau TrC.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.