Da iawn i drefnwyr a chystadleuwyr cystadleuaeth Cneifio Bont Shears sydd wedi codi £2,000 at Apêl Cemo Bronglais. Roedd y gystadleuaeth gneifio a thrin gwlân blynyddol, a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Bont, ym Mhontrhydfendigaid, yn cynnwys 120 o gystadleuwyr o bob rhan o Gymru.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Gerallt Evans: “Roedd yn ddiwrnod da iawn, wedi’i fwynhau gan bawb, yn rhan o’r gylchdaith gneifio. Dewiswyd tîm trin gwlân #Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Byd Cneifio a Thrin Gwlân ar y diwrnod hefyd. “Rydym yn falch o fod wedi codi £2,000 ar gyfer yr Apêl. Mae canser yn cyffwrdd â ni i gyd, gan gynnwys ein pwyllgor, a gobeithiwn y bydd uned ddydd cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais yn gwneud gwahaniaeth mawr.”
Ychwanegodd Gerallt: “Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i ‘Bont Shears’, gan gynnwys y noddwyr, cystadleuwyr, ffermwyr yr ŵyn, y beirniaid, a’r rhai a roddodd o’u hamser er mwyn i ni allu cynnal y digwyddiad.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.
“Rydym yn ddiolchgar i Bwyllgor Cneifio Bont Shears am eu cefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i’n helpu i gyrraedd ein targed.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |









